yn neilltuol pan gofiwn i Gymry America gyfrannu dros £100, ni dderbyniwyd hyd yn oed y swm hwn mor ddigymell ag a ellid ddymuno. Bu'n rhaid i'w gyfeillion drefnu nifer o gyngherddau mewn gwahanol fannau i ddod â'r swm i fyny i hyn. Bu'r cyngherddau hyn, fodd bynnag, yn dra llwyddiannus ymhob ystyr. Dywedai'r papurau am un a gynhaliwyd yn y Rosebery Hall, Caerdydd, ei fod y mwyaf, a'r mwyaf llwyddiannus a fu erioed yn y ddinas. Bernid fod tua deng mil yn bresennol, a chymerid rhan gan gorau meibion Abercarn, Aman, Cynon, Hen Feibion (Porth), Pontycymmer, Porth a Chymmer, Rhondda, Treherbert, a Threorci, tra yr unai'r oll o'r rhain ar y diwedd dan arweiniad Caradog i ganu'r "Soldiers' Chorus (Gounod), gyda chyfeiliant milwrol ac offerynnol cyflawn.
Tynnodd y fath amlygiad o frwdfrydedd—yn dod yn fuan ar ol siomedigaeth Llundain—y datganiad a ganlyn oddiwrth Parry fel cyfran o un o'i ysgrifau i'r "South Wales Daily News": "Gymrodyr Cymreig,—Y mae'r arddangosiad nodedig a wnaethoch y Sadwrn diweddaf o barch a mawrygiad ohonof fi fel cerddor Cymreig yn hynod yn hanes cerddoriaeth ein hannwyl wlad, ac wedi cyrraedd hyd at gysegr nesaf i mewn fy enaid, fel na allaf ganiatâu iddo basio heb yr ychydig eiriau eiddil hyn o ddiolchgarwch oddiwrthyf fi. Gadewch i ni gredu fod y mudiad cenedlaethol hwn i dalu gwarogaeth i fywyd a llafur un meidrolyn tlawd a'i ymdrechion gwylaidd yn cael ei ysgogi gan Allu Uwch, ac y bydd ei duedd i'n symbylu a'n harwain i wneuthur mwy eto, ac i ennill llawryfau gwell i'r wlad a garwn mor annwyl. Y mae i'n bywydau eu Gethsemane a'u Mynydd Carmel; ac y mae y fath arddangosiad cenedlaethol ag un y Sadwrn yn creu ac yn taflu pelydrau o lawenydd a diddanwch i ddyfnderau tywyll glynnoedd pruddaidd galar ein bywyd presennol."
Yng Ngwyl Gerddorol Caerdydd yr un flwyddyn, rhoddwyd ei "In Memoriam " dan ei arweiniad ef, ond nid gyda llwyddiant, am nad oedd y cantorion wedi meistroli'r gwaith. Yr un peth raid ddywedyd am y datganiad o'i weithiau yng Ngŵyl Cymdeithas y Tonic Solfa yn y Palas