union, i gwrdd a'r prif ddinasyddion a'r cerddorion proffeswrol. Cymerant fi o gylch eu dinas dra nodedig. Y mae y Rocky Mountains enwog yn y pellter-yr un fynydd-res yn ymestyn fyth i'r gorllewin am 5000 o filltiroedd. Y mae y fan ag oedd ddeugain mlynedd yn ol yn lle anifeiliaid gwylltion ac Indiaid wedi ei drawsffurfio i fod yn un o'r dinasoedd modern mwyaf swynol, gyda 180,000 o boblogaeth, ac yn meddu parciau, strydoedd, ystorfeydd, gwestai, chwareudai, eglwysi, ysgoldai, ac adeiladau gwladol o'r mwyaf prydferth, ac sydd wedi codi fel drwy wyrth oherwydd y mwnau aur, ac arian, a phlwm sy'n britho'r fynydd-res aruthrol ac annisgrifiadwy am fil o filltiroedd. Y mae'r cyfeillion yma'n orgaredig i mi.
Y diwrnod canlynol (dydd Sadwrn) am un ar ddeg y bore, gadawaf am Colorado Springs, taith o un filltir ar bymtheg a thrigain drwy olygfeydd godidog, ac wedi cyrraedd arhosaf y nos yno . . . Wedi holi, deuaf o hyd i Mr. James, o Gaerdydd, un o'r sefydlwyr cyntaf yma, a Joseph Parry o Ogledd Cymru; ac un o'r Cymry mwyaf hynaws, Mr. Stephens. Treulia'r hwyr gyda mi, a bore Sul hyd gychwyniad y trên—fyth i'r gorllewin.
Yn awr, y mae'r Rocky Mountains mor wirioneddol ryfeddol, y tu hwnt i bob disgrifiad, yn dyrchu i'r nefoedd ymhob ffurf o bentyrau clogyrnog a gwyllt. Pasiwn drwy geunentydd aruthrol, y trên yn cyson ddal ymlaen, gan hawlio mynd fan yma ac acw, yn codi i fyny mor uchel a 14,000 0 droedfeddi uwchlaw lefel y môr, fel yn Leadville. Daw'r os ymlaen, a'i brenhines mewn gwisg arian yn goleuo a hrawsffurfio'r pentyrrau dirif i ddull eglwysi cadeiriol neu estyll Natur. Daw cwsg yntau, a theimla un fel wedi bi groesi, ei synnu, ie, ei luddedu gan ryfeddu at y carneddi wybrennol, fel y mae gwely a chwsg yn felys i mi fel un o fabanod amser. Pan ddaw'r bore, teimlaf fy hun eto'n cael fy mychanu gan yr un fynydd-res. Yr wyf wedi gadael talaith Colorado, ac yn awr yn nhalaith Utah, yn dynesu at Ddinas y Llyn Halen, wedi bod yn teithio y tu mewn i'r