Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/223

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIV. "Yr Ysgub Olaf."[1]

"CAMBRIA," "CERIDWEN," "KING ARTHUR," "His
WORSHIP THE MAYOR," "BRONWEN (Y FERCH O'R SCER),"
"THE MAID OF CEFN YDFA," "JESUS OF NAZARETH."

RWY'N cofio morio, un hwyrddydd haf, ar un o lynnoedd yr Alban, a gweld y mynyddoedd rhyngom a machlud haul yn ymgodi gyda'i gilydd, y tu cefn i'w gilydd, uwchlaw ei gilydd, gan roddi i'r edrychydd yr argraff o amlder o arucheledd, mawr, amryw," ardderchowgrwydd—yn ychwanegol at y teimladau arferol a ddwg machlud haul, gyda'i

Lif o ogoniant yma,
Llif cyfoethocach draw.

Dyna paham y gosodir y teitlau uchod gyda'i gilydd uwchben y bennod hon, am y dymunwn gynhyrchu argraff cyffelyb ym meddwl y darllenydd yn yr olwg ar y gyfres ryfeddol hon o weithiau—mawrion i gyd, er yn fwy a llai. Yr ydym wedi cael ein synnu eisoes gan doreithter cynhyrchiol Parry, ond cynhydda'n syndod yn awr pan gofiom fod yr awdur erbyn hyn tua thrigain oed. Gwir fod awduron cerddorol eraill wedi cyfansoddi rhai o'u prif weithiau wedi pasio canol oed, a hyd yn oed eu trigain oed, a rhai eu trigain a deg, ond nid yn aml gyda'r fath doreithter a hyn, llai fyth gyda thoreithter[2] cynhyddol fel mae'r blynyddoedd yn pasio. Er i Haydn gyfansoddi ei "Greadigaeth" pan o drigain a phedair i drigain a chwech oed, eto cwyna fod meddylddrychau unwaith yn ei geisio ef, ond ei fod ef yn awr yn gorfod eu ceisio hwy. Hyd yn oed mor ddiweddar a dechreu 1903 cawn Parry yn llawenhau—fel "cawr i redeg gyrfa"—am fod Mr. Bennett wedi addaw libretto arall iddo, ac felly wedi rhoddi cyfle arall i'w ymdrechion.

  1. "Mae'r ysgub olaf wedi'i chywain 'nawr." (Wil Ifan.)
  2. Gweler hanes Handel, ymysg eraill.