"Cambria" hanes Cymru ar ei hyd yn destun—ar eiriau gan Syr Owen Edwards—ac am y rheswm hwnnw gellir edrych arni fel math ar sylfaen i'r oll, tra yr ymwna "Ceridwen "—ar eiriau gan Dyfed—â hanes Cymru yn amser y Derwyddon, ymosodiad y Rhufeiniaid, a dyfodiad Cristnogaeth. Yr un ffugr barddonol o nos a gwawr ddefnyddir gan y ddau fardd i osod allan chwyldro hanes, ond y mae eu triniaeth ddeheuig ohono'n rhoddi cyfle arbennig i'r cerddor.
Cyhoeddwyd "Cambria" a "Ceridwen" a pherfformiwyd y ddwy fel y sylwyd eisoes. Gorffennwyd yr opera "King Arthur "ar eiriau gan Elfed—yn 1900, ond nid ydyw eto wedi ei chyhoeddi na'i pherfformio. Daw i fyny â'r safon a nodwyd uchod o fod yn ymwneud â ffugr o faintioli cenedlaethol; ag eithrio hyn, y mae'n fwy chwedlonol na hanesyddol, gyda chorawdau nid yn unig i Farchogion, Gloddestwyr, Mynachod a Lleianod, a Morwynion y llys, ond hefyd i Wrachod, a Syrens, a Bodau anweledig. Y prif gymeriadau yw Arthur a Gwenhwyfar, Lancelot ac Elaine, Merlin a Vivienne.
Gwelir mynd y geiriau yn yr enghreifftiau a ganlyn, a diau fod Parry yn ei elfen yn eu hieuo â miwsig, fel yr oedd Elfed, y mae'n amlwg, wrth eu cyfansoddi:
Y Gloddestwyr:
We know where the world is merry,
We know where a man may laugh,
We are poor and thirsty—very!—
But to-day here is mead to quaff:
So here's to the knight victorious,
And here's to ourselves, say we :
May he oft return as glorious
With all of us there to see!
Good health, all round.
Y Syrens eto
(yn plethu eu gwallt gerllaw ffynnon):
Shine, shine, loverlike sun,
We our tresses plaiting;
Let the moments merrily run,
We our loves relating.
Fal, la, la, fal, la, la, la.