Medd Mr. Levi (yn 1878):
"Mab ydyw Joseph Parry i Daniel ac Elisabeth Parry, gynt o Ferthyr Tydfil. Yr oedd ei dad yn fab i John Parry, ffermwr parchus o sir Benfro. Symudodd Daniel yn ieuanc i Forgannwg, a bu yn refiner yn y Gyfarthfa (Merthyr) am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymfudo i America. Yr oedd Elizabeth, mam y cerddor, yn enedigol o'r Graig, yn ymyl Cydweli, sir Gaerfyrddin—un o deulu Richards o'r Graig, ac yn berthynas pell i Henry Richard, Ysw., A.S. Wedi tyfu i fyny, symudodd i Ferthyr, ac ymsefydlodd yn nheulu yr hen weinidog parchus Methusalem Jones, Bethesda, ac oddiyno y priododd â Daniel Parry.
"Mae Joseph Parry yn ieuengaf ond dau,[1] dybiem, o wyth o blant. Ganwyd ef yn y tŷ isaf ond un, pen deheuol, o 'Dai yr Hen Gapel' Merthyr, Mai 21ain, 1841; felly y mae yn awr yn ddwy flwydd ar bymtheg ar hugain oed. Cafodd Joseph, fel y rhan fwyaf o ddynion nodedig pob gwlad, fam ragorol i'w fagu; dynes gall, grefyddol, a'i henaid yn llawn cerddoriaeth. Byddai hi yn aml, pan na byddai neb i ddechreu canu yn y capel, yn taro y dôn, ac nid oedd neb fedrai wneuthur yn well. Oddiwrthi hi, mae'n debyg, y cafodd y plant eu doniau cerddorol; oblegid y maent oll yn gantorion nodedig—ond daeth Joseph yn deyrn arnynt i gyd.
"Mae Merthyr yn enwog am fagu cerddorion, a chafodd Joseph Parry ei ddwyn i fyny yn blentyn yn y llecyn mwyaf cerddorol yn y lle. Yr oedd rhes ' Tai yr Hen Gapel ' yn llawn cantorion, ac yn gorwedd i ymfwynhau yn wastad mewn cwmwl o seiniau cerddorol."
Am ei fam dywed Cynonfardd ymhellach:
"Bu Betty Parry'n aelod gyda mi yma am rai blynyddoedd. Oddiyma aeth i Portland, Maine, ac yno y bu farw. Er cof am hynny yr enwodd ef un o'i donau yn ' Maine' . . . Clywais hi'n adrodd ei phrofiad aml dro yn y gyfeillach grefyddol oedd yn sicrwydd ei bod yn gyfarwydd â thynnu dwfr o ffynhonnau dyfnaf yr
- ↑ Ond un meddai'i chwaer. Dim ond at frawd a thair chwaer y eyfeiria Parry yn ei Hunan-gofiant: bu farw y tri arall yn ieuainc.