XXV. Cerddoriaeth Cenedl a Chenhedlaeth.
Y MAE i gerddor berthynas â'i genedl ac a'i genhedlaeth, a bydd yn help i'r darllenydd ieuanc i gael syniad gweddol gywir am y berthynas hon, i allu prisio'n iawn yr hyn a ddywed y beirniaid am Parry fel cerddor.
Cydnabyddir yn dra chyffredinol heddyw fod gan bob cenedl hawl i ddatblygu ei bywyd goreu ei hunan yn ei ffordd ei hunan (yn gyson â hawliau cenhedloedd eraill wrth gwrs), ac mai dyna'r unig ffordd i'w ddatblygu. Odditan hyn gorwedd y ragdyb fod i genedl ei hanianawd a'i hathrylith arbennig ei hunan, ac felly ei swyddogaeth benodol yn y cyfan; ac y bydd yn gwasanaethu'r cyfan yn gystal a hi ei hun, nid trwy anwybyddu ac esgeuluso ei nodweddion cenedlaethol, ond drwy eu pwysleisio a'u datblygu nid unffurfiaeth a rydd yr unoliaeth cyfoethocaf.
Nid felly y mae wedi bod yn ystod cyfnodau hir a blin teyrnasiad grym ni chydnabyddid hawliau cenedl i hyn mwy nag eiddo'r unigolyn; gwneid pob ymdrech i ddarostwng ei huchelgais cenedlaethol, ac i fathru allan ei nodweddion. Gwir i ddiwylliant y gorchfygedig rai prydiau ennill gwrogaeth y gorchfygwr, ond nid yn aml. Ac nid felly y bu yng Nghymru. Hyd yn oed heddyw, fel yr awgryma Dr. Protheroe, y mae yna duedd yn y Cymro i leoli cartref y safonau yn Llundain—safon perffeithrwydd cerddorol yn eu plith. Eto pan eir yno ceir ei fod wedi ei symud i'r Cyfandir—cyn y rhyfel mawr o leiaf. Pascal, onide, a ddeffiniodd yr Anherfynol, fel un sydd â'i ganolbwnc ym mhobman, a'i amgylchedd ddim yn unman. Wel, gwybydded y cerddor ieuanc fod safon perffeithrwydd ym mhobman, am nad yw mewn un man, na Llundain, na Pharis, na Berlin, ond yn yr uwchleol; ac mai ei waith ef yw mynegi'r ysbrydoliaeth a ddaw iddo ef oddiyno, heb fynd yn slâf i amser na lle.
Yr oedd Parry byth a beunydd yn pwysleisio hyn, yn ei anerchiadau yn gystal ag yn ei ysgrifau: maentumiai fod yna yr hyn a alwai yn germ o athrylith gerddorol nodweddiadol Gymreig yr awyddai ei ddatblygu a ffurfio