arddull ac ysgol Gymreig; a phan gyhuddodd "Zetus" ef yn 1890 o fod wedi oedi'n hir cyn galw sylw at hyn, yr oedd yn alluog i dystio ei fod wedi cyfeirio at y peth ar hyd y blynyddoedd. Da gennym fod ein prif gerddorion presennol yn galw sylw at yr un peth.[1]
Eto y mae yn gwestiwn a fu Parry yn ffyddlon i'w weledigaeth yn ei gyfansoddiadau, neu pa mor ffyddlon y bu. Gyda'i ardymheredd hylifol, ei duedd oedd mynd yn ormodol dan lywodraeth awduron eraill; yn ol Mr. Jenkins meddiennid ef braidd yn gyfangwbl gan ryw awdur oedd yn eilun am y tro, yn awr Mendelssohn, wedyn Rossini, ac yna Wagner. Nid mater ydyw, bid siwr, o beidio astudio awduron eraill, dysgu ganddynt, a hyd yn oed sugno ysbrydoliaeth ohonynt, ond o beidio cymryd ein meddiannu ganddynt fel ag i'w heilfyddu a'u hatgynhyrchu'n slafaidd. Ni ellir pwysleisio'n ormodol nac yn rhy aml y rhaid geni pethau byw—nid pethau "o waith llaw" neu "wneuthur" mohonynt. Yn ddeallol yr oedd Parry'n hollol glir ar y pwnc,—lle, er enghraifft y dywed: "Ni wna unrhyw gymaint o wybodaeth ddyn yn athrylithgar, eithr rhaid i'r athrylithgar wrth wybodaeth." Ond yn ymarferol ni ddihangodd rhag y perigl. Yn ol Mr. Price ysgrifennodd ei bethau mwyaf byw, a'r pethau sydd yn debyg o fyw, pan yn rhydd o'r gorthrwm tramor. Gwel y darllenydd gyfeiriadau pellach at hyn yn yr ysgrifau sydd yn dilyn. Ond y mae yna wahaniaethau mewn amser yn gystal ag mewn lle ac anian. "Un genhedlaeth a ä, a chenhedlaeth arall a ddaw," a chenadwri wahanol er i'r anianawd genedlaethol bara'r un. Perigl yr ieuanc yw addoli delfrydau ei oes ei hun a dibrisio'r hyn a fu. Iddo ef y mae Moderniaeth yn safonol, a chanddo allu i godi neu ynteu i fwrw i lawr; lle na chaiff achub y mae'n damnio. O brin y cydnabyddir mawrion y gorffennol hyd yn oed fel arloeswyr, gan gymaint rhuthr a dirmyg y condemniad. Bid siwr, nid yw cerddorion ieuainc mor anghyson a'r diwinyddion ieuainc rai blynyddoedd yn ol, a gondemniai
- ↑ Fel y gwnaeth Dr. Vaughan Thomas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf.