ddiwinyddiaeth y gorffennol yn ei chrynswth er pwysleisio ohonynt Fewnfodaeth Duw yr un pryd! Ni raid i'r cerddorion ieuainc wrth syniad felly am Dduw, eto dylasent hwy weld mai o brin y mae gan y don hawl i farnu a chondemnio'r môr y cyfyd ohono, er iddi fod yn don gribwen.
Ond nid arloeswyr yn unig mo wroniaid y gorffennol, ond meistri; ffurfiant uchafbwyntiau hanes eu hoes nas diorseddir gan yr oesoedd dilynol. Y geudeb syniadol rhwydd sy'n gwneuthur unffurfiaeth yn ddelfryd sy'n cyfrif am y duedd i edrych ar bob oes fel yn is-wasanaethgar i'r rhai dilynol, yn hytrach nac fel un sy'n meddu ystyr, a swyddogaeth, a pherffeithrwydd o'i heiddo ei hun. Gall fod yna gyfnodau o ddirywiad, mae'n wir; a gellir edrych ar aml i gyfnod o adweithiad fel y pantle rhwng dwy don. Arferai Carlyle bwysleisio fod oes o weithgarwch mawr yn cael ei dilyn gan oes o feddylgarwch; gallasai ychwanegu y dilynir honno'n aml gan oes o anfeddylgarwch.[1]
Ond am gyfnodau creol, y mae ganddynt hwy waith ac ysbrydoliaeth sydd i fesur yn annibynnol ar orffennol a dyfodol; arhosant fel mynegiadau o'r tragwyddol ym myd amser a lle. Ni chredaf y breuddwydia athronwyr y byd am allu mynd y tu hwnt i Plato ac Aristotle mewn rhai cyfeiriadau; na'i ddramodwyr ychwaith am allu rhagori ar Shakespeare ond mewn ail bethau. Y mae'r un peth yn wir yn nhiriogaeth arluniaeth, cerfluniaeth, ac adeiladaeth. Ac yng nghanol baldordd addolwyr Moderniaeth y dyddiau hyn, i'r rhai y mae Beethoven out-of-date, a haul Wagner hyd yn oed ar fynd i lawr, da
- ↑ Dygodd cwrs o ddarllen i gyfeiriad neilltuol "History of European Morals (Lecky) ar ol seibiant maith ar y silff-i'm dwylo'n ddiweddar, a chefais fy hun un dydd yn darllen a ganlyn: "The age of genius had closed, and the age of pedantry had succeeded it. Minute, curious, and fastidious verbal criticism of the great writers of the past was the chief occupation of the scholar, and the whole tone of his mind had become retrospective, and even archaic. Ennius was esteemed a greater poet than Virgil, and Cato a greater prose writer than Cicero. It was the affectation of some to tesselate their conversation with antiquated and obsolete words. The study of etymologies had risen into great favour, and curious questions of grammar and pronunciation were ardently debated."