gennym gael y dystiolaeth ddoeth a threiddgar a ganlyn gan Dr. Vaughan Williams:
I find that among the musicians of the younger generation Beethoven does not hold the same place as he did to those of us who were young men in the "nineties." Perhaps this is natural. The "sublimity" which a past generation admired in the middle period of Beethoven seems to date it at once as early nineteenth century—a period with which the younger generation is out of sympathy. But doubtless time will bring its revenges; and even now those who are voluble in their criticism of the early and middle Beethoven are dumb before such things as the Ninth Symphony, the Mass in D, and the C Sharp Minor Quartet. These works belong to no period; they seem not to be the product of any individual intelligence, but to be the manifestations of something which has existed from the beginning of time, and whose materialization in the early nineteenth century is purely accidental.
Yn ol hyn nid yw creadigaethau arhosol yn perthyn i un oes ond i'r oesoedd; y mae eu cysylltiad â chyfnod neilltuol yn ddigwyddiadol yn yr ystyr nad ydynt yn codi ohono yn gymaint ag yn dyfod iddo; ac wedi dod y mae eu arhosiad yn annibynnol ar dreigl amser, ac yn dal ar waethaf llawer oes arwynebol a gwageddus. Yn yr un modd y dywedai Cherubini am Beethoven ei fod wedi cyfansoddi ar gyfer amser i gyd; ac fe gofiwn ddywediad Beethoven ei hun fod gwir gelfyddyd yn anfarwol.
Nid yw creadigaethau gwir, na'u creawdwyr yn aml—yn wir, fel rheol—yn cael eu iawn werthfawrogi gan eu hoes eu hun, a hynny am eu bod yn gosod safon newydd i lawr, ac yn gofyn cyfaddasiad newydd yn y farn, na ellir ei sicrhau heb ryw gymaint o amser. Y Deon Swift, onide, a ganodd
Some say that Signor Bononcini
Compared to Handel is a ninny;
While others vow that to him Handel
Is hardly fit to hold a candle;
Strange that such difference should be
Twixt tweedledum and tweedledee.
Yn yr un modd gosodai llu o'r Parisiaid Piccini uwchlaw Gluck, ac ni welsant fawredd Berlioz o gwbl. Ac nid yw oesoedd dilynol, rai ohonynt, lawer callach; fel nad yw