hanes campweithiau arhosol ond cyffelyb i hanes mynydd— oedd daear—heddyw yn y cwmwl tew yng nghudd ac yn anghof, ac fel heb fod, ond wele! yfory, dangosant eu bod ar eu gwadnau o hyd, a'u coryn yn y glesni fel cynt!
Y mae ein hoes ni yn oes o ferw, a chwyldro, a rhysedd—rhysedd dychymyg yn gystal a rhysedd bywyd. Y mae ei beirdd a'i cherddorion a'i harlunwyr fel darganfyddwyr mentrus yn gwthio i foroedd dieithr na fapiwyd mohonynt o'r blaen. Disgrifiant arweddion newydd ar fywyd a phrofiad, a cheisiant gyfuniadau rhyfeddol yn eu creadigaethau. Gwell yr afluniaidd na'r hen; y pechod mawr yw bod yn rheolaidd; ond taro'r dychymyg gellir bod yn baganaidd yn anferth—yn anghenfilaidd! Diau fod yna lawer o gelfwaith gwir, ond mor wir a hynny y mae yna lawer o ffrwyth myfiaeth ronc, wrthwynebol i'r gwir; a gall ein cyfeillion ieuainc fod yn sicr, beth bynnag yw barn yr oes, nad oes yna le i'r myfiol a'r aflan, i'r afluniaidd a'r gwag ym myd gwirionedd a pherffeithrwydd. Cyhyd ag y bo uchelgais a menter yn bod mewn dyn, diau y bydd iddo geisio gwneuthur llwybrau newydd i diroedd disathr, mewn gwyddor a chelfyddyd mewn moes a chrefydd; y cwestiwn yw, a fydd yn cymryd ei ysgogi gan ysbrydiaeth gnawdol oddi isod, neu ynteu gan ysbrydoliaeth ddwyfol oddi uchod. Mewn cyfnodau o orlawnder bywiowgrwydd a nwyfiant, blagura'r dychymyg mewn helaethrwydd amrywiol; ond nid yw wmredd o'r blagur ar y goreu ond math ar arbrawf (experiment)—syrth y mwyafrif mawr i'r ddaear, ac ni welir mohono mwy. Diau fod gan y Meddwl Tragwyddol lawer o feddyliau eto i'w datguddio i ddyn, a llawer i fynegiant o'r Prydferthwch Gwir i'w atgynhyrchu ganddo; ond y mae ganddo hefyd ei ddeddf sy'n "chwalu'r gwael a chwilio'r gwell." Gosododd ddeddf ac nis troseddir hi." Maentumia Arglwydd Inverforth y bydd i "holl eudebau a damcaniaethau gwylltion meddyliau chwyldroadol ddryllio yn y diwedd ar graig Ffaith ddiwydiannol"; ac y mae'r un peth yn wir am berthynas creadigaethau gwyllt ac anferth yr oes a Ffaith y Prydferthwch Gwir. Gwyddom fod cywion pob oes yn crawcian yn hunan-foddhaol gan edrych i lawr ar weithiau'r tadau—a dyna