lachawdwriaeth. Clywais hi hefyd yn canu penhillion nes peri hwyl o orfoledd yn y gwrandawyr, a gwlychu llygaid a gruddiau y tyner-galon. Y mae chwaer y Doctor, sydd yn aelod gyda ni yn awr, er yn bymtheg a thrigain oed, yn gantores ragorol. Hi yw yr unig aelod o'r teulu sydd yn fyw heddyw."
Dywed y "Cerddor Cymreig" (Chwefrol 1869): "Y mae Jane yn un o'r sopranos goreu a fedd y Cymry yn America; y mae Betsy'n un o'r rhai goreu fel contralto; ac nid hawdd yw cyfarfod â neb a fedd bereiddiach llais na Henry." Datblygodd Henry i fod yn "broffeswr" cerddorol. Yr oedd Ann, gwraig Mr. Robert James, arweinydd y gân ym Methesda, Merthyr, yn gantores ragorol hefyd.
Tuag adeg geni Joseph Parry, ac ymlaen drwy dymor ei blentyndod, yr oedd tri chanolfan cerddorol amlwg yng Nghymru, sef Llanidloes a Bethesda yn y Gogledd, a Merthyr yn y De.
Yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf, tebyg mai Merthyr oedd y dref enwocaf yng Nghymru am nifer, os nad am bwysigrwydd ei heisteddfodau. Cedwid hwy agos yn flynyddol, ac ambell i waith fwy nag un y flwyddyn —o leiaf o 1822 ymlaen. Ceid cyfresi ohonynt tan nawdd Cymdeithas Cadair Merthyr, Cymdeithas Cymrodorion Merthyr, ac yn ddiweddarach, Cymdeithas Lenyddol Merthyr. Gwir na roddid lle i gerddoriaeth—ag eithrio canu'r delyn—yn y rhai cyntaf; ond yn Eisteddfod Cadair Merthyr yn 1825, cawn fod ariandlws i'r datganydd goreu, yn gystal ag i'r telynor cyntaf a'r ail oreu.
Ymddengys mai Ieuan Ddu oedd cychwynnydd canu corawl o radd uchel yn Neheudir Cymru. Sefydlodd gôr ym Merthyr tua 1840, a rhoddodd berfformiad cyflawn o'r "Messiah," y cyntaf yng Nghymru'n ddiau. Ar wahoddiad Lady Charlotte Guest rhoddodd ef a'i gôr gyfres o gyngherddau yn Llundain a Lerpwl. Moses Davies— tad Mynorydd, a thaid Dr. Mary Davies—oedd arweinydd galluog arall ym Mhontmorlais, Merthyr. Ganddo ef a Rosser Beynon (Asaph Glan Tâf) y newidiwyd o'r hen ddull o ganu tôn gynulleidfaol—y gwrrywod yn canu'r alaw, a'r benywod y tenor—i'r dull presennol. Gwnaeth Mr. Beynon