cyfansoddwr fod wedi cyrraedd graddeb mwy aruchel yn y rhannau olaf, er mwyn dwyn y gwaith i derfyniad mwy mawreddog. Gwir fod cynganeddiad y dôn "Abertawe yn effeithiol iawn, ond dipyn o hanner-graddeb yw yr effaith, er rhagored y trefniad.
Yn "Saul o Tarsus" y mae y cyfansoddwr ar ei oreu, a dyma'r cyfanwaith pwysicaf o'i eiddo. Yr oedd ar linellau gwahanol—rhai oedd yn doriad tir newydd i'r awen Gymreig. Dyma y gwaith Cymreig cyntaf y ceir testunau dynodol ynddo, ac y mae y cyfansoddwr wedi eu rhifnodi. Y mae y gynghanedd yn flaen—fynedol, ac fe ddaw gallu y cyfansoddwr i ysgrifennu y cyfeiliannau i'r gerddorfa yn amlwg yn y gwaith. Y mae "Saul" yn fwy newydd—yn fwy rhydd yn ei ffurf, a thrwy hynny yn rhoi mynegiant effeithiol i deithi y gwahanol olygfeydd.
Eto braidd na farnwn fod y gwaith blaenaf lawn mor wreiddiol, gyda'r eithriad o'i ffurf, a'r olaf. Y mae eiliw Wagner yn gryf mewn amryw fannau, ac y mae tebygrwydd eglur yn yr unawd, "Bow down Thine ear" i gân adnabyddus Wagner, "The Evening Star." Y mae pob nodyn o'r pedwar mesur cyntaf o'r ddwy yr un fath. Ail—adroddir y frawddeg, ac ni all y cyfarwydd lai na synnu. Er hynny, effeithiol iawn yw'r unawd, a rhydd y corawd cyfeiliannol liw hyfryd i orffen yr olygfa. Deallaf i amryw alw sylw Parry at y tebygrwydd oedd yn y gân i un Wagner.
Un o deleidion melodawl y gwaith ydyw'r deirawd hyfryd sydd yn yr olygfa yn y carchar—dau angel yn canu rhyw fath ar hwiangerdd i'r Apostol, pan oedd wedi syrthio i gysgu ar ol treialon y dydd yntau yn deffro, ac yn ymuno â hwy, gan gymryd yr un testun melodawl. Ond er tlysed y gerdd, atgofir ni o un o ganeuon—heb—eiriau Mendelssohn, ac felly anurddir hi gan y bai" rhy debyg." Ond er y brycheuyn yna, y mae y deirawd hon yn deilwng o'i rhestru gyda'r deirawd arall o eiddo Parry, "Duw bydd drugarog," ac ni wn am ddim mwy swynol o ran y defosiwn, y teimlad, a'r naws hyfryd sydd yn rhedeg drwyddynt, yr hyn a'u gwna yn bleser i'w canu.
Y mae y gwahanol motives frithant y gwaith yn ddisgrifiadol. Un hynod o swynol ydyw'r un a rydd fel