motive yr haul, melodi syml, ond hollol gydnaws. Fel gwrthgyferbyniad y mae yr un sydd yn awgrymu ysbryd erlidigaethus Saul. Y mae y dull y gweithir allan y gwahanol symudiadau yn effeithiol dros ben, a'r cyfansoddwr yn cadw mewn golwg yn barhaus gyfunedd y darlun; dyfnheir y lliwiau mewn rhai mannau, ond gwneir y cyfan yn felodaidd a chyda sicrwydd y gwir artist. Fel yr ymagora y gwahanol olygfeydd fe gynhydda'r diddordeb, a rhydd y cyfansoddwr ddatblygiad newydd o'i bwerau dramayddol, ac o'i allu rhan-weithiadol a gwrth- bwyntol. Ni phetrusa roi digon o waith i'r gwahanol gorau, fel weithiau y bydd un yn gweddio am waredigaeth, tra fyddo un arall yn galw yn groch am waed Apostol mawr y cenhedloedd.
Fe geir rhywbeth newydd i gerddoriaeth Gymreig yn y dull y newidir y mydr mor fynych, ac yn y defnydd wneir o gyd-grynhoad o'r gwahanol fydryddau, gyda'r dôn "Glan 'r Afon" yn destun cân yr angylion gwarcheidiol, tra y mae rhannau annibynnol gan y benywod gwatwarus, gwylwyr y Praetorium, a'r offeiriaid. Y mae'r cyfan yn feiddgar, ond effeithiol dros ben, ac yn cynhyrchu effaith cynhyrfus. Fe ddengys y cyfansoddwr ei allu i fynd i gyfrinion y gerdd, a gwneuthur i'r holl destunau ganolbwyntio er mwyn dwyn allan galon y darlun.
Wele rai o'r "motives" uchod: