fy mywioliaeth fel organnydd a chyfeilydd, chwareuwn ei fiwsig yn gyson. Er enghraifft, diau i mi gyfeilio ei 'Wylwn! Wylwn" gannoedd o weithiau, ac y mae Cymru Fydd" drwy ganu parhaus wedi mynd i mewn i'm hesgyrn. Y mae'r ddau gyfansoddiad hyn, yn fy marn i, o ansawdd mor ddrygol fel y bu iddynt, heb yn wybod i mi, helpu i gyffredineiddio fy chwaeth yn nhymor mwyaf derbyngar fy mywyd. Ni allaf gofio pa bryd y dechreuais amheu mawredd Parry, ond yr oedd lawer o flynyddoedd yn ol, ac yr oedd fy neffroad i'r gwirionedd yn raddol ac anodd. Dim ond ar ol cyfnod o hunan- amheuaeth ac astudiaeth galed y rhoddais ef i fyny'n benodol. Yr wyf yn ddiolchgar i Ragluniaeth am i mi gael nerth i wneuthur hynny.
Fel yr astudiwn y meistri mawr-Mozart, Bach, Beethoven, Brahms, Wagner-canfûm yn raddol na chynhwysai ei gerddoriaeth un elfen o wir fawredd, nad oedd mewn gwirionedd yn gerddoriaeth dda, dim ond ymddangosiad a rhith. Ni fu yn fy mynwes un amser deimlad chwerw tuag at Parry ei hun, ond am gyfnod ni allwn lai na theimlo i mi gael fy nhwyllo a'm camarwain gan y rhai oedd yn gyfrifol am fy arwain a'm haddysgu. Gwelaf yn awr eu bod hwy'n ddidwyll ddigon yn eu hedmygedd o'i waith, a gwn fod yr edmygedd hwnnw'n tarddu o'u diffyg profiad, a'u chwaeth hanner gwrteithiedig. Er hyn oll, fel y dywedais, bu Parry'n faen tramgwydd ar fy ffordd pan yr oedd bywyd yn ymdrech a minnau'n ymladd yn galed am addysg, profiad, goleuni, a gwirionedd.
Rhyfedd, onide, fod "Cymru Fydd," "Y Marchog," ac amryw eraill o gyfansoddiadau Dr. Parry'n cael eu rhoddi, gyda phob arwydd o gymeradwyaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni? Wel, felly y rhaid i bethau fod hyd oni thaflom ymaith ein mŵd presennol o hunan-foddhad, ac y llwyddwn i ddwyn ein galluoedd deallol a'n canfyddiadau artistig i'r un lefel ag eiddo pobol ddiwylliedig gwledydd eraill.
Ond nid Dr. Parry na'i gerddoriaeth a saif ar ffordd ein cynnydd, ond yn hytrach ein diffyg gwybodaeth a phrofiad, ein hanwybodaeth o gerddoriaeth Seisnig a thramor, a'r