sut yr oedd ym Methesda a chartref Parry, ond ni synnem glywed fod Beti, gyda'i hanianawd fywiog a'i dawn ddramayddol, yn gogwyddo at y dull ysgafn a chwafrol yn fwy na'r un mwy defosiynnol ac urddasol. Os felly, nid rhyfedd os cynhyrchwyd bias cryf ac arhosol yn natur bachgen mor agored i argraffiadau at yr un dull. O leiaf, rhaid fod yna achos dwfn a dirgel i'w serch a'i ogwydd hyd y diwedd at yr "arddull Cymreig" a'r "tân Cymroaidd"—serch nad oedd ei darddell yn yr R.A.M. na Mendelssohn na Wagner, ac oedd, yn wir, yn ddigon cryf i herio pob dylanwad a datblygiad diweddarach.
Cysyllta'i fywgraffwyr—yn y cyfnod hwn—gryn bwys â'r ffaith iddo dreulio dyddiau mebyd yn sŵn, mwy neu lai cyson, seindorf y Gyfarthfa. Dywed Mr. Tom Price: "Y mae yn ffaith i'r ddau gerddor Gwilym Gwent a Dr. Parry gael magwrfa yn ymyl brass bands, a dichon na fu dau gerddor mwy mydryddol (rhythmical), gyda mwy o'r 'mynd' sydd mewn mydr, yng Nghymru. Cafodd Parry ei fagu yn ymyl y fan lle yr arferai seindorf y Gyfarthfa ymarfer, ac fe glywodd yn fore y gerddoriaeth oreu, yn ei gwisg oreu; ac ni wyddom faint fu y dylanwad ar hogyn mor fyw ei deimladau. Yr oedd Gwilym Gwent yn aelod o'r brass band pan yn ddyn ieuanc. Y mae trwst cerddol seindorf y Gyfarthfa yn ei ddarnau milwrol."
Eir â ni i fyd mwy lledrithiol ac anolrheinadwy pan y ceisir cysylltu elfennau yn ei gerddoriaeth â golygfeydd naturiol Merthyr. Diau fod yna gysylltiad agos ond cyfrin rhwng anianawd y cerddor a natur fawr i gyd—nid ei seiniau yn unig: prawf hanes y prif gerddorion hynny. Yr oedd Gluck, Beethoven, Weber, Wagner, ac eraill yn orhoff o gwmni maes, mynydd, a môr. Ac y mae yna gysylltiad mwy pendant na'r un cyffredinol yna: pan ofynnwyd i Mendelssohn gan ei chwaer Fanny am ddisgrifiad o olygfeydd "llwyd" yr Alban, gwnaeth hynny drwy ysgrifennu darn o gerddoriaeth a ddatblygodd wedyn i fod yn un o'i ddamau goreu. Prin y byddai neb ond un o Ferthyr yn honni fod y lle yn brydferth. Yn bresennol y mae gan gwmniau rheilffyrdd lygaid neilltuol o glir i ganfod prydferthwch yng nghymdogaeth eu relwe hwy, ond ni chlywsom fod un o'r cwmnïau yn hysbysebu