o Leipsic i Berlin un tro, aeth i'r chwareudy i wrando perfformiad un o'i operäu, a daliai'r ail grythen i ganu D lon yn lle D, nes iddo o'r diwedd weiddi allan, "O! ddistryw paham na ellwch chwarae D?" Iddo ef, â'i glust deneu, yr oedd yn annioddefol, ac amhosibl i ni wybod faint ei ddioddef cyn gweiddi ohono. Fe ddealla'r darllenydd nad siarad ydym i gyfiawnhau tymherau fel hyn, ond i'w hesgusodi hyd y gellir, am na ŵyr y cyffredin am rym y brofedigaeth. Ni chredwn am foment ei bod yn rhaid i hyn fod, pan gofiom am Paul â'i "chwythu bygythion a chelanedd," ac Awstin a'i natur nwydwyllt wedyn "heb don ar wyneb y dwr." Ac os na wrendy'n cyfeillion cerddorol ar bregethwr, gwrandawent ar y meddylegwr a'u cynghora i roddi mwy o sylw i ddatblygu'r ewyllys. Fe dalai i'r cerddor i ganu llai er mwyn dyfod yn ddyn mwy; oblegid nid yw'r celfyddydau cain wedi'r cyfan ond megis addurn tŷ—y dyn yw ei gryfder, a pheth go ddiwerth yw tŷ cain sigledig.
Yr oedd Parry'n rhy ddiamynedd i fod yn athro da ar ddosbarth na chôr, a chymerai'r myfyrwyr yn aml, os nad fel rheol, fantais ar ei wendid, a throent y dosbarth yn gyfle ffrwydr a stwr. Tebyg mai ei ddiffyg amynedd, y gallu anfeidrol i gymryd trafferth," a amddifadai'i athrylith o'i mynegiant goreu, a'i greadigaethau o'r perffeithrwydd uchaf. Danzi, onide, a arferai ddywedyd wrth Weber, "I fod yn artist gwir, rhaid bod yn ddyn gwir"—maentumiad ag y mae darllenwyr Ruskin yn gyfarwydd ag ef. Gwelir olion yr un brys hogynnaidd i fynd drwy beth yn ei lawysgrifau llenyddol y mae'n amlwg na chymerai amser i lunio brawddeg cyn ei gosod i lawr, ond treia'r geiriau cyntaf a'u cynhygiai eu hunain, ac os na ddaw'r lleill ar eu hol yn weddol ufudd croesa hwy allan, a threia eraill, ac yn aml gwna'r un peth â'r rheiny wedyn; fel mai nid olion pensaer celfydd yn caboli ei waith a geir ynddynt, ond y prentis yn ymboeni, gwthio, clytio. Y mae ei arddull hefyd yn chwyddedig ac areithyddol fel eiddo hogyn eto; y mae'n hoff o bentyrru ansoddeiriau amlwg, ac agos cyfystyr, ac yna o bentyrru brawddegau y naill ar y llall, sydd fel rheol, a'u cymryd gyda'i gilydd, yn ddiffygiol mewn cystrawen. Wrth gwrs,