cyhuddwyd ef o fod yn ariangar—hoffai eu cael er mwyn eu defnyddio. Pan adawodd y melinau oedd yn rolio gini'r nos iddo am gasgliadau deg cent Cymry Oneida, cwynai'n hiraethus—fel y brefa'r ych wedi gadael y doldir bras am y bryniau moel. Ac o hynny hyd y diwedd ni phetrusai ofyn am dâl da am ei wasanaeth. Meddyliodd ei gyfeillion a'i berthnasau'n ardal Pontyberem, wedi iddo ymsefydlu yn Aberystwyth, mai peth da fyddai iddynt ei anrhydeddu ef a hwy eu hunain drwy ei gael i arwain eu cymanfa ganu. Cafwyd cymanfa dda—heb sôn am y telerau ariannol. Yr oedd y trysorydd—yr hwn hefyd a'i gyrrai i'r orsaf—yn hen frawd anrhydeddus, a rhag ofn na fyddai pum punt yn ddigon i Mus. Bac., gosododd saith punt yn ei boced, eto heb dybio am foment y byddai eu heisiau. Yna, ar y ffordd, gofynnodd i Parry faint eu dyled iddo. "O, rhoddwch ddeg punt i mi," oedd yr ateb. "Wel," meddai'r trysorydd, "dim ond saith bunt sydd gennyf yn awr—ond gallaf yrru'r gweddill ar eich ol." "All right" meddai Parry, 'gyrrwch hwy; gwnaiff hynny'r tro'n iawn."
Tebyg fu hi yn Beulah, Sir Aberteifi, lle y cynhelid cymanfa ganu a chyngerdd yn yr hwyr gyda'r bwriad o wneuthur ychydig elw i gael elor-gerbyd at wasanaeth yr eglwys. Ond mynnai Parry, er na chyrhaeddodd ar gyfer y rehearsal nos Sul, yn unol â'r dealltwriaeth—gael ei dalu am y ddau wasanaeth ar wahân, gyda'r canlyniad na welodd yr eglwys un elor-gerbyd ond un ei gobeithion. Eto ni fedrai gadw'r arian a dderbyniai, a'u gwybodaeth o hyn a barodd i'w gyfeillion ddefnyddio arian ei dysteb i brynu tŷ iddo ym Mhenarth. Moddion yn unig oedd arian iddo ef, heb fod yn foddion mor effeithiol, ychwaith, ag a fuasai yn nwylo—yn lle "rhedeg drwy fysedd (chwedl yntau)—un mwy gofalus.
Adeg cydolygu'r "Cambrian Minstrelsie," bu ychydig annealltwriaeth rhyngddo a Dewi Môn ynghylch y tâl. Er i'r ddau gael eu cyflogi ar wahân, talodd y cyhoeddwyr am yr holl waith golygyddol i Parry, a phan geisiodd Dewi ei gyfran ef o'r tâl gan y cyhoeddwyr, cyfeiriasant ef at Parry. Yntau ni ddeallai hyn, a gwrthodai dalu ar y cyntaf. Ymddengys fod yna adran yn y cytundeb yn