dywedyd mai felly yr oedd i fod, ond y tebygrwydd yw na ddarllenodd Parry erioed mo'r cytundeb; ac er iddo gael ei feio gan rai ar y pryd, y mae'n amlwg mai gwraidd yr holl annealltwriaeth oedd dull hynod y cyhoeddwyr o wneuthur cytundeb â'r golygyddion ar wahân, a rhoddi'r tâl i un. Pan ddeallodd Parry'r amgylchiadau, diau iddo dalu'n union. Oleiaf, ei gyd—olygydd, onide, a ysgrifennodd adeg ei farwolaeth:
Diniweited ei natur—a mebyn:
Mab diflin ei lafur;
Miwsig heb drai na mesur
Lanwai byth ei galon bur.
Y mae'n amlwg fod pob cwmwl wedi mynd erbyn hyn.
Yr oedd Parry hefyd yn un a ddeuai i fyny'n nês at y safon
Gristnogol o faddeugarwch ac addfwynder na llawer
mwy eu honiadau. Credaf y gellid dywedyd amdano,
na fachludodd yr haul ar ei ddigofaint. Dyna dystiolaeth
ei gyfeillion, ac fe'i hategir gan ffeithiau. Ar waethaf
ffrwgwd cantawd Merthyr, a'i anghydwelediad â
Thanymarian, ni pheidiodd â mynd yr holl ffordd
i'w angladd ac arwain y canu ynddi. A hyd yn oed pan
ddadorchuddiwyd cof—golofn Llew Llwyfo, yr hwn a'i
difenwodd ar y pryd fel artist, etc., yr oedd Parry'n
bresennol, a thraddododd anerchiad. Mr. Jenkins a ddywed
y byddai ei ffrindiau, ar ol rhyw "dro trwstan" o'i eiddo, 'n
bwriadu siarad yn llym ag ef, ond y byddai ei wên a'i
lygad siriol, a'i ddull hogynnaidd diniwed, anghofus o
bob trwstaneiddiwch, yn eu diarfogi'n lân.
Ar yr ochr negyddol, dengys gryn lawer o gryfder moesol yn ei waith yn gwrthod siarad hyd yn oed dros ei hawliau ei hun dan amgylchiadau neilltuol—megis pan berfformiwyd "Ceridwen," mewn ufudd—dod i'r rheol, "y mae distawrwydd yn aur."
"Yr oedd ganddo syniad uchel am ddyletswydd "— yn arbennig ei ddyletswydd at "gerddoriaeth gwlad ei enedigaeth,' ac ynglŷn â hon eto at gyfansoddi,—os gwrandawn ar ei hunan—fywgraffiad. Yn ol hwn, edrych ar hyn fel gwaith ei fywyd, ac arno'i hun fel wedi ei alw iddo, mor wirioneddol a'r hen broffwydi gynt. Ac fel