yn ddwyfol, ond fod rhai ystafelloedd yn fwy felly na'i gilydd. Yn hyn yr oedd yn fwy o Roegwr (neu Gelt?) nag o Iddew, a diau y dywedai gydag Islwyn:
Mae'r oll yn gysegredig.
Gelwir sylw at hyn fel mater o ffaith, nid am ei fod yn dangos diffyg yn ei ddatblygiad a'i addfedrwydd cerddorol nac ysbrydol—nac i'r gwrthwyneb; gall ei fod y naill neu y llall. Y Parch. J. H. Jowett, mi goeliaf, a ddywed yn un o'i ysgrifau iddo unwaith fynd i weld un o hen saint ei eglwys ar ei wely angeu, ac iddo ei gael yn darllen "Pickwick," er braw iddo ar y cyntaf, ond er dysg iddo wedyn braw am iddo dybied ei fod wedi ei dwyllo gan ffug—grefyddolder, ond dysg am iddo ddod i weld fod yr hen sant yn cael hamdden oddiwrth lafur ysbrydol—yn gorffwys oddiwrth ei weithredoedd. Ac ar y cyfan dyna hanes y saint—yr unitive way yw rhan ola'r daith: disgynnant o'r uchelfeydd gyda chalon wedi ei goleuo, a llygaid wedi eu gloywi i weld fod Duw'n ddigon mawr i fod ym mhethau cyffredin bywyd; gyda St. Francis cyfrifant bysg ac adar yn frodyr oll. Dichon mai yn yr ysbryd yma—ym myd cân y cyfrifai Parry bob creadur a wnaeth Duw, hynny yw, natur i gyd, yn lân. A hyn sydd sicr, na chanodd erioed i'r un creadur aflan. Pan na chanai i'r Aruchel a'r Tragwyddol, canai yn wastad i'r pur, a'r syml, yr iach, a'r prydferth. Y mae hyd yn oed ei ddigrifwch a'i chwerthin yn iach a glân a diniwed, fel na'n siomir ni pan na ddaw llais i'w alw i gysegru ei awen i wasanaeth yr ysbrydol.
Y prif beth, wedi'r cyfan, yw bod cerddoriaeth ysbrydol yn cael y lle uchaf yn ei feddwl, yn hytrach na'r lle olaf yn ei hanes. Ac eto, fel y mae'n digwydd, y mae'r naill a'r llall yn wir. Sylwodd y darllenydd eisoes ei fod yn rhoddi'r lle uchaf i gerddoriaeth gysegredig. Gwelsom hefyd y bwriadai i "Iesu o Nasareth" fod yn brif waith ei fywyd. Dengys hyn—a'r ffaith iddo, yn ei flynyddoedd olaf, gyfansoddi dau waith arall o bwys dan yr un teitl, sef y Corawd i Fechgyn yn 1898, a'r Gantawd i Blant yr un flwyddyn,—fod ei ddychymyg cerddorol wedi ei feddiannu gan ogoniant "Iesu o Nasareth" (paham o