Merthyr fel beauty spot. Bid siwr, y drwg ym Morgannwg yw fod y llwch glo, a mwg y gweithfeydd haearn yn cuddio tlysni'r wlad ers talm pan glywid stŵr " arianddwr yn y Rhondda." Diau fod Coed-y-Castell a Bannau Brycheiniog yn y pellter wedi gosod eu hargraff ar ddychymyg y llanc; ond y mae'r berthynas yn rhy gyfrin inni fedru ei holrhain, ac ar y goreu ni allai ond rhoddi gogwydd i'r ddawn oedd ynddo.
Os dyna'r amgylchfyd, beth am ymateb y llanc iddo? Nid oes un hanes amdano fel am Verdi, pan yn fachgennyn, yn mynd i glustfeinio yn ymyl plas lle y canai'r ferch y piano ddydd ar ol dydd; neu fel ei gyfaill P. P. Bliss, pan glywodd yntau ganu yr un offeryn mewn tŷ gwych, a fentrodd i mewn i ymyl drws y parlwr, a phan beidiodd y canu, a ymbiliodd, "Oh, lady, play some more." Nid yw yr ychydig a ddywedir amdano ond yr hyn ellid ei ddywedyd am ddegau o fechgyn eraill, a'r ychydig hynny, y mae lle i ofni, yn ddim ond casgliadau o'i flynyddoedd dilynol,—ymgais i wneuthur ffrwd bore oes yn deilwng o'r afon fawr. Y mae gennym dystiolaeth uniongyrch un hen wraig (yn ol Cerddwyson), Mrs. Catherine Williams, yn awr yn 86ain mlwydd oed, yr hon a adwaenai'r teulu'n dda, ac oedd yn y tŷ pan aned ef, sef, y byddai'r cymdogion yn arfer ei wahodd i'w tai pan yn blentyn pedair a phum mlwydd oed i ganu a phregethu, ac yn rhoddi pres iddo am wneuthur hynny. Ond pan ddywedir wrthym ei fod pan tua seithmlwydd oed yn medru chwiban darnau clasurol seindorf y Gyfarthfa bob un, nid tystiolaeth mo hyn, ond enghraifft o'r "darllen yn ol" uchod, gan ei bod yn dra sicr na osododd neb y llanc dan arholiad mor fanwl ag a ragdybir yn y fath faentumiad. Wrth gwrs, y mae'n gwbl bosibl a thebygol hyd yn oed, yng ngoleuni ein gwybodaeth am ei glust deneu a'i gof gafaelgar, ond nid mynegiad syml o ffaith mohono yn y ffurf hon. Rhwydd gennym gredu, hefyd, yr hyn a ddywed Mr. Levi amdano: "Ceid anhawster i'w gadw i ganu y prif lais, ond mynnai o hyd ganu ail lais (seconds) a ffurfiai ei hun ar y pryd, tra fyddai'r athro Robert James yn arwain y bass. . . . Erbyn ei fod yn ddeg oed, yr oedd alto rhannau helaeth o oratorios Handel, Mendelssohn, a Haydn, a ddysgid ym