III. Dros y Werydd.
Hunan-gofiant:
1854, yr wyf yn rhoddi fy nghalon i'w Chreawdwr, ac yng Nghorffennaf yr un flwyddyn cymerir fi, gyda'm brawd a'm chwiorydd Elisabeth a Jane, gan fy mam dros y Werydd llydan i America (Danville, Pennsylvania, lle yr aethai fy nhad o'n blaen y flwyddyn flaenorol). Moriwn o Gaerdydd i Philadelphia yn y llong hwyliau Jane Anderson, ac yr ydym chwech wythnos a dau ddiwrnod ar y dŵr. Yn y fan hon syrth y llen ar dair blynedd ar ddeg cyntaf, fel ar ragware (prelude) fy mywyd. Yn awr daw ail len fy ngweledigaethau gyda'u digwyddiadau am lawn ugain mlynedd. Yr wyf yn y Rolling Mills, a symuda fy llafur ynddynt ger fy mron fel drama fawr o fywyd—o 1854 hyd 1865. Yn y Rolls, drwy ddwy waredigaeth wyrthiol oddiwrth ddamwain (1) drwy ffrwydriad berwedydd, pryd y lladdwyd fy nghydweithiwr yn fy ymyl, a (2) thrwy sidell doredig —arbedir fy mywyd tlawd i fod o ryw wasanaeth i gerddoriaeth gwlad fy ngenedigaeth (yr hyn wyf wedi ceisio ei wneuthur yn awr ers tymor hir).
Yn awr daw 1858 ger fy mron, ac yr wyf yn ol mewn ystafell fechan yn nhŷ fy athro cyntaf (y diweddar Mr. John Abel Jones o Ferthyr), lle y cynhelir ei ddosbarthau i ni hogiau'r felin ar brynhawn Sadwm o dri hyd bedwar o'r gloch, wedi i ni fod gartref wedi gwaith. Dysg ni i ddarllen cerddoriaeth fel aelodau o'r côr meibion. Yr wyf yn ddwy ar bymtheg oed cyn deall yr un nodyn o gerddoriaeth (er i mi ganu mewn amryw berfformiadau o draethganau ac offerennau ym Merthyr).
Yn yr ail chwarter fe dyr gwawr darllen cerddoriaeth ar fy meddwl, a pha beth bynnag a ysgrifenna fy athro ar y black-board bychan, yr wyf yn gallu ei ganu'n union. Gweithia ef a minnau gyda'n gilydd drwy'r nos am flynyddoedd—ef