gynulleidfaol, a rhennir y wobr rhyngof fi a Mr. Pritchard, hen gyfansoddwr. Fel hyn arweinir fi'n ol i ddechreu bore fy nghwrs fel cyfansoddwr ieuanc.
Y fath wynfyd! Yr wyf yn cael fy offeryn cyntaf— melodion bychan pedair wythawd sydd i'm henaid fel organ bibau fawr, neu gerddorfa gyflawn! Cofiaf yn dda y cordiau cyntaf a genais arni, sef y tri chord cyntaf yng nghanig Callcott, "Brenhines y Dyffryn." Y mae'r offeryn yn awr ym meddiant brawd fy ngwraig, Gomer Thomas, Danville, yr hwn a wrthyd ei werthu i mi.
Teifl y cof yn awr ei ffenestr yn fwy llydan-agored. Yr wyf yn yr hen eglwys briddfaen fythol annwyl yn hau hadau crefyddol fy oes ddyfodol—yn ei chôr, a chyrddau'r gwŷr ieuainc a'r Ysgol Sul, ac yn cerdded tri chwarter milltir deirgwaith bob Sul am lawer blwyddyn; yn canu'r melodion yn y côr, ac yna nos Sadwm yng nghyrddau'r gymdeithas ddadleuol, ac yn cario'r melodion ar fy nghefn bob wythnos i gyfeilio'r canu.
1861: Yr wyf yn awr yn fy ugeinfed blwyddyn, pan ddaw Cupid ym mherson fy nghyntaf a fy unig gariad, a'r un sydd i fod yn gymar bywyd i mi mewn llawenydd a thrallod (am ddeugain mlynedd erbyn hyn). Yr haf hwn danfonir fi fel efrydydd i'r cwrs haf o dri mis yn Geneseo, N.Y. Y mae rhai o'm cyd-efrydwyr erbyn hyn yn enwog, sef Madam Antoinette Sterling, Mr. P. P. Bliss, a Dr. Palmer. Efrydaf ganu dan y meistr mawr Eidalaidd, Bassini (cyfaill Rossini) a'r organ, cynghanedd, a chyfansoddiant dan yr Athro Cook. Fis Gorffennaf, tyr y rhyfel allan; â cannoedd o'm ffrindiau ieuainc i'r rhyfel, ac ychydig ddaw'n ol. Syrth y coelbren ddwywaith arnaf fi, a chyst i mi £200 i ddod yn rhydd. Pan ddychwelaf o'r coleg, af eto i weithio yn y melinau.
Yn awr, gorlifa 1862 â'i ddigwyddiadau fy nghof. Enillaf wobrau yn llawer o eisteddfodau'r America. Priodaf ar fy nydd pen blwydd, a chyfansoddaf ganig, "Cupid's Darts," yr hon a genir ar ol y cinio priodas. Gwasanaethaf fel beirniad am y waith gyntaf yn Hyde Park. Mor dda y cofiaf