i mi fethu cysgu drwy'r nos oherwydd fy mhryder ynghylch beimiadu'r dydd canlynol.
1863: Gwna fy athrawon i mi gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Enillais ar yr oll a dreiais: Y motett (wyth gini); tair canig (pum gini), sef "Man as a Flower" (Male Voice), " Rhowch i mi fynghleddyf " (Male Voice) a "Ffarwel i ti, Gymru fad " (lleisiau cymysg). Yr oedd y canigau adnabyddus "Y Clychau," Yr Haf," a "Nant y Mynydd " yn y gystadleuaeth. Gohiriwyd rhoddi'r wobr o bum gini am y ddwy gorale nes cael prawf pellach o'u gwreiddioldeb. Wedi i mi yrru i mewn Rhif. 1, 2, a 3 o'r deuddeg corale a gyfansoddais y flwyddyn flaenorol, derbyniais y wobr. Nid yw fy nghynrychiolydd yn bresennol yn yr eisteddfod, fel nad yw fy enw fel y buddugwr yn wybyddus hyd nes i'm cyfeillion yn Danville ddanfon atynt. Yr wyf o hyd yn y melinau. (Gwêl. Restr 28 cyfansoddiad y flwyddyn).
1864: 'Rwy'n ennill yr holl wobrwyon yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno (£24 a medal): canon i dri llais, "Nid i ni, O Arglwydd"; y rhangan i leisiau gwrywaidd "Chwarae mae y Chwaon iach ; a'm dau gorawd, "Achub fi, O Dduw," a "Clyw, O Dduw, fy llefain" yn gyntaf ac yn ail.
Yr wyf o hyd yn y melinau—yn awr yn ben roller. (Gwêl. Restr 24 cyfansoddiad am y flwyddyn.)
1865, gyda'i nifer fwy a mwy pwysig o gyfansoddiadau ddatguddir nesaf i mi. (Gwêl. y Rhestr o 32 cyfansoddiad.)
Adlewyrcha drych y cof y cyfnod pwysicaf yn fy mywyd bach. Daw Eisteddfod Aberystwyth yn awr ger fy mron. Y mae fy llwyddiant parhaol yn eisteddfodau America yn gystal ag yn Abertawe a Llandudno yn peri i'm dau athro a'm brawd yng nghyfraith fy nwyn drosodd i'm gwlad a'm tref enedigol, ac i'r tŷ lle'm ganed, ac wrth gerdded rhwng yr hen olygfeydd, y mae fy nghân, "O give me back my childhood's dreams" yn toddi fy enaid i ddagrau. (Y flwyddyn ddiweddaf gyrrais i'r trigiannydd presennol fy