chopio'n union o'm cof, ac yn ei gwerthu i Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, am 500 o gopiau, ac yn teimlo'n llawen oblegid y fargen fawr! Y mae copiau gennyf o'r gweddill ddanfonwyd i mewn. Am yr "Ar don" arall, a elwir "Gwaredigaeth," enilla hi'r wobr yn Eisteddfod Hyde Park, ar gyfer yr hon yn wir yr ysgrifennais yr un fwy adnabyddus— cenir y ddwy yn America.
Y mae fy nhri chyfaill a minnau'n cynnal cyfres o gyngherddau yng Nghymru, a gwneir y rhaglenni i fyny o ddetholiadau o'm Canigau, Rhanganau, a Chaneuon i fy hun.
Ym Medi dychwelwn adref ar yr agerlong City of New York, ar fôr garw iawn gan chwythiad y gwyntoedd cyhydnosol (equinoctial) am 56 awr, fel y bu rhaid atgyweirio'r llong wedi cyrraedd New York. Wedi cyrraedd, af yn ol at fy ngwaith hyd ddiwedd y flwyddyn.
Mor gerddorol yw eich stŵr, felinau, i mi; siffrwd eich sidellau aruthr, mydr eich peiriannau a'ch olwynwaith: y mae hyd yn oed fflachiadau eich troellau'n arddunol yn fy ngolwg; oblegid yn gymysg â chwi, ac yng nghlwm wrthych y mae fy holl gyfansoddiadau hyd ein hymwahaniad y flwyddyn hon. O! mor dda y cofiaf gyfansoddi fy Nhonau, Caneuon, Rhanganau, Canigau, Anthemau, Corawdau, a hyd yn oed fy Fugues—dygwyd hwy oll i fod yn eich cwmni chwi, sef y Motett, "Ar Don," "Ffarwel i ti, Gymru fad," etc.— ganwyd hwy yn sŵn eich miwsig chwi. Yr wyf yn cael fy hunan yn gweithio allan rai o'r rhannau mwyaf cymhleth â sialc gyda'r llawr haearn yn lle blackboard; ac yn defnyddio amser gorffwys i redeg adref i'n tŷ yn ymyl i'w copio, nes i mi glywed eich peiriannau'n mynd drachefn.
Dyma'n ddiau'r amser prawf dwysaf i iechyd, gyda'i lafurwaith corfforol caled ar y naill law, ac ar y llaw arall efrydiaeth gyson i weithio allan ymarferiadau Cherubini ac Albrechtsburger ar Wrthbwynt a Fugue o mor bell yn ol ag 1862, fel y dengys rhestr y flwyddyn.
Bu Nadolig y flwyddyn hon yn gyswllt mawr ar daith bywyd. Yr wyf yn beimiadu yn Eisteddfod Youngstown,