i'r academi honno, canys deg doler ar hugain yn unig a farnai Bliss yn ddigon i'w gynnal—y rhai a gafodd gan ei famgu o ryw hen hosan gêl oedd ganddi. Nid hir y byddai'r melinau oedd yn "rolio gini'r nos" cyn gwneuthur y swm hwn i fyny.
Ar ol y tymor byr ond effeithiol a thrylwyr hwn o addysg, a chryn dipyn o ymarferiad pellach yn 1862, mentrodd Parry i faes cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru "i ymladd â hen geiliogod," chwedl Gwilym Gwent—a'u gorchfygu hefyd, yn neilltuol mewn rhan o'r maes. Yn ol yr hanes yn y "Cerddor Cymreig," ymddengys ei fod yn rhagori yn nhiriogaeth yr Anthem a'r Fotett yn fwy na chyda'r Ganig a'r Dôn. Allan o saith gwobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Abertawe, 1863, enillodd ef ddwy, sef am Fotett a thair Canig, tra y rhannwyd y wobr am y Dôn Gynulleidfaol oreu rhyngddo ef a David Lewis, Llanrhystyd, ac am y Deuawd goreu, rhyngddo ef a Gwilym Gwent. Dywedir am ei Fotett ei bod yn "dra rhagorol "; ond dyma ddywed Ieuan Gwyllt ar y "Tair Canig"— 'Y tair canig oreu o eiddo yr un awdur yw eiddo 'Hoffwr Amrywiaeth'; ond os detholwn y tair canig oreu o'r holl gyfansoddiadau sydd yn y gystadleuaeth y maent yn sefyll fel y canlyn: 1, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 1 (J. Parry); 2, Davy (J. Thomas); 3, Hoffwr Amrywiaeth, Rhif 3; Emest Augustus, Rhif 1 (Gwilym Gwent)." Yn hynod iawn, yn y gystadleuaeth am y Chwech Alaw Gymreig oreu, nid y chwech goreu at ei gilydd o eiddo'r un awdur a wobrwywyd, ond tair o eiddo Gwilym Gwent, dwy o eiddo D. Lewis, ac un gan John Thomas, a hynny, er fod y beimiaid yr un ag ar y Canigau a geiriad y testun yn gyffelyb, sef, am y Tair Canig oreu (nid goreu); am y Chwech Alaw Gymreig oreu (nid goreu}. Rhoddasai Ieuan Gwyllt y wobr am y Deuawd goreu i Gwilym Gwent am ei fod yn well drwyddi; ond yr oedd mwyafrif y beimiaid yn ffafr ei rhannu.
Yn Eisteddfod Llandudno, y flwyddyn ddilynol, ef enillodd ar yr Anthem (gwobr gyntaf a'r ail), y Ganig, y Rhangan a'r Canon. Enillwyd ar y ddwy Dôn Gynulleidfaol gan J. Thomas a D. Lewis. Dywedai y beimiaid am anthemau Parry, eu bod "yn ymddyrchu'n annhraethol