Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. Yr Athrofa Frenhinol (R.A M.).

Hunan-gofiant:

TYDI, amser byth-wibiol, y fath gyfnewidiadau a ddygi yng nghwrs ein bywyd brau!

1866 addaw yn awr, ac yr wyf finnau ar daith gyngherddol yn cario allan raglen y pwyllgor. Ymwelaf ag Utica, New York, cartref wythnosolyn Cymraeg America, "Y Drych." Cynhaliaf fy nghyngherddau cyntaf ym mhentrefi gwledig Oneida Co.—y cyngherddau cyntaf i'w cynnal erioed yn yr eglwysi: ni chaniateir argraffu na gwerthu tocynnau— dim ond casgliadau! Y fath ddechreuadau bychain! Casgliadau 10 cent A Teimlwn fod tâl godidog fy melinau troell lawer yn well na'r ymweliadau ofnus hyn â dieithriaid na wyddant ddim, ac na chlywsant erioed amdanaf fi, dylawd! Ymwelaf â'r parthau chwarelyddol, a threfi poblog Ohio, ac ardaloedd mwy cydnaws y gweithfeydd glo a haearn. Derbyniaf garedigrwydd a lletygarwch, bid siwr, ymhob man, ond y mae eich ardaloedd hefyd yn ganolbynciau llawer o haelioni, ac ni bydd i mi anghofio llawer o'ch lleoedd, a chyfeillion, tra yr erys fy nghof ar ei sedd. Yr wyf gyda chwi, gyfeillion Youngstown, cartref y mudiad, a phrif fudiad fy mywyd i, heddyw mor ffres ag erioed, eich pwyllgorau, eich cyngherddau, a'ch swperau; sut y medraf anghofio eich wynebau na'ch enwau hyd yn oed? Y mae Newburgh hefyd fyth yn ffres, y llu o ffrindiau siriol, a'r nifer o wythnosau dedwydd a fwynheais gyda chwi. A llawer i dref arall yn Ohio, a'u llu cyfeillion, yr wyf gyda chwi un ac oll unwaith eto, ac mor swynol ydyw byw y dyddiau hyfryd hynny unwaith yn ychwaneg!

Yma yn Newburgh y gorffennais fy "Mab Afradlon" ar gyfer y wobr o £20 yn Eisteddfod Caer; wedi llafurio wrtho mewn trains, a badau, a chartrefi y mae'n cipio'r wobr. Dyma'r olaf o'm cystadleuaethau, bob tro'n