llwyddiannus ag eithrio'r hanner gwobr am Gorale yn 1861. (Anghofia'r deuawd a'r dôn yn Abertawe.) Ni fedraf eich anghofio chwi, gyfeillion Gomer, Ohio, gyda'r sefydlwyr haelionus a lletygar o Lanbrynmair—prawf fy ymweliadau aml â chwi ein cariad y naill at y llall. Dwg fy nheithiau fi hyd afon Ohio, i dreulio dyddiau a nosweithiau ar y Mississippi, yn gystal a'r Hudson fyd-enwog. Yn y breuddwydion effro hyn yr wyf hefyd gyda chwi yn Cincinnati, Chicago, Racine, a Milwaukee, a'ch sefydlwyr yn Wisconsin, a chwithau yn Cambria, mor falch gan fy nghalon adnewyddu ei hatgofion amdanoch oll yna.
Daw Pennsylvania, fy nhalaith fy hun, ger fy mron fel panorama symudol a byw, a Pittsburgh, a Johnstown hyd y Dwyrain—i lygad, a chalon, a chariad, yr ydych fel yn fyw o'm blaen! . . . A thithau hen Ddanville annwyl, a Hyde Park, a Scranton, a Lackawanna Co.—fel y daw eich eglwysi, corau, cyngherddau, eisteddfodau, ac atgofion am ddigwyddiadau, enwau cyfarwydd a wynebau o'm blaen; er fod llawer ohonoch wedi meirw ers llawer dydd, eto yr ydym gyda'n gilydd unwaith eto yn gystal a chwithau sydd eto'n fyw.
Ac nid yw fy astudiaethau colegol yn Danville yn anghof, na fy neuddeng mlynedd dedwydd fel organnydd yn Eglwys Bresbyteraidd Danville, gyda'm Quartette Choir—yr ydych yn benodau hyfryd yn llyfr fy mywyd.
O amser a chof!—y fath wydr-ddrychau ydych! Yma y disgyn y llen eto ar bedwaredd golygfa fy mywyd. Fel y cyffrowch fi, ac y toddwch fi â'ch atgofion!
1868—1871: Gadawaf fy nghartref dedwydd a'm gwraig a'm dau fachgen (Haydn a Mendy) am flwyddyn gyfan i ddod yn y City of Brussels i Lundain i astudio yn y Royal Academy of Music. Nid wyf yn adnabod un enaid yn Llundain; y mae'r ychydig wyf yn adnabod (yn y wlad hon) yng Nghymru. Derbynnir fi i'r dosbarth uchaf mewn cyfansoddiant dan y Prifathro Syr Stemdale Bennett (cyfaill i Mendelssohn); efrydaf ganu'r organ dan Dr. Steggall, a lleisiadaeth dan y