byd-enwog Signor Manuel Garcia. Derbyniaf wobr ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, pryd y gofynna Mrs. Gladstone " Ai Cymro ydych?" ac ar fy ngwaith yn ateb Ie, Madam, ychwanega hithau, "Cymraes wyf innau hefyd, ac y mae'n hyfrydwch gennyf gyflwyno gwobr i chwi fel fy nghydwladwr." Derbyniais wobr uwch ar ddiwedd yr ail flwyddyn, pryd y cyfarchodd (Mrs. Gladstone) fi eilwaith gyda boddhad. Ar derfyn fy nhrydedd blwyddyn enillaf fedal a phasiaf fy arholiad am y radd o Mus. Bac. yng Nghaergrawnt—y Cymro cyntaf i wneuthur hynny.
Cyn gadael Llundain, rhoddaf gyngerdd o'm gweithiau fy hun yn St. George's Hall, yr hwn a ddug i mi £50 o elw. Cynhaliwyd Conversazione hefyd yn Aldersgate St. Hall, pryd yr oedd yn bresennol Henry Richard, A.S., a llawer eraill. Cyflwynwyd tysteb ynghydag oriawr aur i mi, a modrwy ddiemwnt i'm priod—y rhai sydd gennym yn awr.
Yr wyf yn bresennol mewn dau o'r Buckingham Palace State Concerts, ar wahoddiad yr arweinydd, Syr W. S. Cusins, fel un o ychydig nifer; ac yn agoriad yr Albert Hall. Y mae'r holl deulu brenhinol yn bresennol yn y ddau gyngerdd.
Yr wyf gyda'm teulu yn mynychu Capel Annibynnol Hwfa Môn yn Fetter Lane yn ystod y tair blynedd.
Bob Nadolig byddaf yn beirniadu yn y Temperance Hall, Merthyr, ar yr un esgynlawr ag y sangwn arno yn hogyn.
Fel hyn y dygodd edyn euraid (cof) fi drwy'r golygfeydd pwysig hyn yn nrama fy mywyd, a chaiff fy nyddiadur
yn y fan hon ail-adrodd coffawdwriaeth blynyddoedd
ffrwythlon 1868—70—71. (Gwêl y Rhestr ar y diwedd.)