Ynglyn â'i ddyfodiad i'r Athrofa Frenhinol efallai na ellir dechreu'n well na thrwy'r dyfyniad a ganlyn o anerchiad Brinley Richards yn Eisteddfod Abertawe, 1880:
"Yn Eisteddfod 1863," meddai, "cefais yr anrhydedd o fod yn un o'r beirniaid a derbyniais dros gant o lawysgrifau cystadleuol am y wobr am y Dôn neu'r Goral oreu. Yr oedd y cyfansoddiad i'r hwn y dyfernais y wobr gymaint uwchlawy cyffredin, fel ag yr oeddwn yn awyddus i wybod rhywbeth am y cyfansoddwr, a phan ddeellais mai Cymro ieuanc yn byw yn America oedd, awgrymais y dylid dyfeisio rhyw lwybr er iddo gael addysg yn Lloegr; a'r canlyniad oedd—drwy ddylanwad cyfaill tra theilwng a chenedlgarol adnabyddus drwy yr oll o Gymru fel 'Y Gohebydd'—i nifer o Gymry yn America ffurfio eu hunain yn bwyllgor: casglasant dros 2000 o ddoleri ac anfonwyd y dyn ieuanc i'r Athrofa Gerddorol Frenhinol, lle y cefais y pleser o'i gyflwyno i'r diweddar Syr Sterndale Bennett. Ar ol astudio am rai blynyddoedd yn yr Athrofa, cymerodd ei radd yng Nghaergrawnt. Prin y mae angen ychwanegu mai cyfeirio yr wyf at Dr. J. Parry. Oddiar hynny, y mae wedi cynhyrchu yr Oratorio 'Emmanuel' gwaith mor ysgolheigaidd ac wedi ei ysgrifennu mor dda fel ag i gyfiawnhau y gred y bydd iddo eto yn y dyfodol ychwanegu at yr anrhydedd y mae eisoes wedi ei ennill."
Y mae Mr. Richards yn camu'n fras o'i awgrym ef ar ol Eisteddfod Abertawe yn 1863 i "Drysorfa Joseph Parry" yn 1866. Y mae'n bosibl torri'r cam mawr yna i nifer o rai llai; canys gwyddom i Parry gyfarfod â'r "Gohebydd " am y waith gyntaf yn New York pan ar y ffordd i Eisteddfod Aberystwyth; i lythyr y "Gohebydd," wedi iddo edrych i mewn i'w hanes, ysgogi awdurdodau'r Eisteddfod i gynnyg iddo dddwy flynedd o addysg; ac iddo wedyn gael caniatâd i ddychwelyd i America'n gyntaf. Galluoga "Cofiant y 'Gohebydd'" (gan ei frawd) ni i gymryd cam arall, a hynny ar sail tystiolaeth Parry ei hun, medd y Gofiannydd. Aethai'r "Gohebydd" gyda Dr. John Thomas a Mr. G. R. Jones, Llanfyllin, i gynhadledd fawr Boston yn 1865, fel cynrychiolwyr Annibynwyr Cymru. Arhosodd yno ddwy flynedd, ac yn ystod 1866 (diwedd 1865 fyddai'n gywir) "daeth Parry i New York o Pennsylvania lle y gweithiai."