Dywedodd wrth y "Gohebydd" ei fod yn ymwybodol o dalent gerddorol, a bod ei awydd am ei datblygu'n angherddol drwy gael cwrs o addysg yn yr R.A.M., a chymryd ei radd yn Nghaergrawnt. Gofynnodd y "Gohebydd" iddo a oedd yn mynd i Eisteddfod Youngstown (Nadolig 1865). "Yr wyf yn feirniad yno," oedd yr ateb. "Wel, ni gawn weld be wna pwyllgor yr Eisteddfod ynglŷn â chychwyn trysorfa." Cafodd y "Gohebydd" gan y Pwyllgor i gynnal cynhadledd y diwmod dilynol. Cafwyd adroddiad gan y cerddor ieuanc o'r hyn a gymerodd le yn Eisteddfod Aberystwyth, a phasiwyd penderfyniadau o bwys.
Ond cyn dod at y penderfyniadau hyn, y mae anhawster ynglŷn â'r cam o "awgrym" Mr. Brinley Richards i weithgarwch y "Gohebydd." Oblegid yn y lle cyntaf, ni chafodd Parry y wobr lawn am y ddwy Dôn oreu, ond rhannwyd hi rhyngddo a Mr. D. Lewis, Llanrhystyd, medd y "Cerddor Cymreig," yr hwn a ddywed ymhellach: "rhoddid canmoliaeth uchel iawn i'r cyfansoddiadau hyn." Heblaw hyn, gall y dyfyniad uchod o anerchiad Mr. Richards yn Abertawe arwain y darllenydd (fel yr arweiniodd y Cofiannydd) i dybio iddo siarad yn uniongyrch a "Gohebydd," ac felly mai iddo ef (Mr. Richards) yn y pen draw y mae y clod yn ddyledus am addysg Parry, hyd nes darllen y llythyr a ganlyn oddiwrth Mr. Richards i'r "Gohebydd," yr hwn a brawf nad felly y bu, gan y cyfeiria at Parry ac Eisteddfod Abertawe fel testunau na fu siarad amdanynt rhyngddo a'r "Gohebydd" o'r blaen. Y mae'r llythyr yn ddyddiedig Gorffennaf 13, 1871, ac wedi ei ysgrifennu mewn ateb i wahoddiad i gwrdd ffarwel Parry, wedi gorffen ei gwrs yn Llundain:
"Annwyl Ohebydd, Y mae'n bleser o'r mwyaf gennyf i dderbyn eich gwahoddiad i'r cyfarfod y bwriada cyfeillion Mr. Parry roddi eu ffarwel iddo ynddo ar ei ymadawiad am America. Y mae gennyf ddiddordeb personol (mewn ffordd o siarad) yn hanes Joseph Parry. Yr ydych yn ddiau'n cofio Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ychydig flynyddoedd yn ol, pryd y cefais, ymysg dros gant o