Cawn hanes llawn o'r hyn a wnaed yng Nghynhadledd Youngstown yn y llythyr a ganlyn o'r "Drych" am Chwefror 13, 1868:
Trysorfa y "Parry Fund"
"Ym Mhwyllgor Cyffredinol Eisteddfod Youngstown am y flwyddyn 1865, a gynhaliwyd drannoeth yr Eisteddfod, yn yr hwn yr oedd 'Gohebydd' Llundain, Aneurin Fardd, Parch. J. Moses, ac amryw enwogion eraill, cymerwyd achos Joseph Parry mewn llaw gyntaf erioed yn y wlad hon, fel y gwŷr y rhan fwyaf o ddarllenwyr y 'Drych.' "Achoswyd hyn gan y cynhygiad a dderbyniodd y Pencerdd pan yn talu ymweliad â gwlad ei enedigaeth, gan bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru, yn cynnyg dwyn ei dreuliau addysgiadol yng Ngholeg Normalaidd Abertawe, ac am flwyddyn arall yn yr Athrofa Frenhinol, Llundain.
"Yn wyneb y cynhygiad haelfrydig hwn, barnem fel cyfarfod y byddai yn anfri arnom fel cenedl yn y wlad hon i adael i Joseph Parry dderbyn ei addysg trwy offerynoliaeth Cymry y fam wlad yn gwbl annibynnol ar gymorth ac ymdrechion ei gydwladwyr yn America. Nid oeddem am i'r Pencerdd wrthod cynhygiad haelionus Pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol, ond barnem y dylai Cymry y Taleithiau Unedig gael rhyw law yn yr achos—y dylent hwy gael mantais i daflu eu hatlingau i'r drysorfa er ei gynorthwyo i ddatblygu talent obeithiol ac ymdrechol ein Pencerdd. Felly mabwysiadodd y cyfarfod dywededig y penderfyniadau canlynol:
"1.—Ein bod fel cyfarfod yn diolch i bwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru am eu parodrwydd a'u haelfrydigrwydd i gynorthwyo talent obeithiol.
"2.—Ein bod fel cyfarfod yn cymeradwyo Joseph Parry i dderbyn y cynhygiad haelfrydig os byddai hynny yn gydnaws â'i farn a'i deimlad.
"3.—Ein bod fel cyfarfod yn addaw ein cynhorthwy iddo mor bell ag a fydd yn ein gallu, ac hefyd i apelio at garedig- rwydd a haelionusrwydd ein cyd-genedl yn America yn ei achos.