Genedlaethol yng Nghymru ar iddynt roddi y cynhygiad haelionus a chenedlgarol i mi pan oeddwn yno.
"Yr wyf hefyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus, yn cydnabod mai fy annwyl gyfeillion John Abel Jones a John M. Price, gynt o Danville (yn awr o Pottsville) ydyw y rhai a fu, trwy eu cymelliadau, yn foddion i ddwyn fy sylw gyntaf at y gelfyddyd gerddorol. Ac hefyd hwy yn unig, trwy eu gwersi a'u llafur diffuant am flynyddoedd, a fu yn foddion i'm dwyn yr hyn ydwyf fel cerddor.
"Yn awr, annwyl gyfeillion, a'm cydgenedl yn gyffredinol, wrth derfynu dywedaf fy mod yn teimlo na allaf byth ad-dalu i chwi am yr hyn a wnaethoch ac a ddangosasoch tuag ataf. Yr unig beth a allaf ei wneuthur yw cyflwyno â chalon gynnes, ac â dagrau yn fy llygaid, fy niolchgarwch gwresocaf am yr oll a wnaethoch i mi. Gyda gobaith y caf iechyd, einioes, a chynhorthwy i gyrraedd yr amcan mawr mewn golwg, ac y bydd i chwi yn y dyfodol wneuthur i eraill yr hyn a wnaethoch i mi, ac y caf yn y dyfodol fod o ryw wasanaeth i'm cenedl, a defnyddio fy nhalent er gwasanaeth yr Hwn a'i rhoes.
- Eich cywir gyfaill,
- Joseph Parry (neu Pencerdd)."
Y mae braidd yn ddirgelwch sut y pasiodd agos i dair blynedd rhwng Eisteddfod Youngstown a'i fynediad i'r Academi. Ysgrifenna Gwyneddfardd i'r "Drych" am Awst 1, 1867 "fod y Pencerdd yn ail-ymaflyd o ddifrif yn ei gyngherddau ar ol bod yn gorffwys am gymaint o amser, ac yn benderfynol o gario'r symudiad y dechreuodd ymgymeryd ag ef allan i derfyniad llwyddiannus."
Yn rhifyn Medi 26, 1867, cawn hanes un o'i deithiau, ac yn ddigwyddiadol gryn oleuni ar ystyr ac achos v gohiriad:
"Treuliasom amser difyr iawn ar lannau y Susquiehana. Aethom ar hyd ei glannau am filltiroedd. Synnid a swynid ni gan y golygfeydd rhamantus a ddatblygent dro ar ol tro. Talasom ymweliad â Port Deposit, Maryland, ac erioed ni chawsom amser difyrrach. Yr oedd yr awen yn berwi allan weithiau dros ben bob terfynau, ac yn wir, meddyliai pobol