Daeth drosodd i'r wlad hon ddiwedd haf 1868—heb ei deulu y pryd hwnnw; ac ni bu Cymru'n ol i America yn ei chefnogaeth iddo adeg gwyliau yr Athrofa. "Gellir dywedyd pan y cychwynnodd ar ei deithiau cyngherddol," meddai Mr. D. Jenkins, "i'r wlad godi ar ei thraed i'w gyfarch, a dymuno 'Duw yn rhwydd iddo' " Ni chafodd na chantores na chanwr dderbyniad mor frwdfrydig ag ef. Tarawodd ddychymyg "Young Wales " y dyddiau hynny i raddau eithriadol, fel y dengys sylwadau pellach Mr. Jenkins: "Pan oedd yn yr Athrofa Frenhinol, ac ar ol i ni ymwneud â'i gyfansoddiadau, a darllen ei hanes, yr oedd ein hedmygedd ohono braidd yn ddiderfyn. Yr oedd cerdded un filltir ar ddeg dros fynydd Eppynt o Drecastell i Lanwrtyd i'w weld a'i glywed am y tro cyntaf yn ddim yn ein golwg, a mawr y mwynhad a gawsom yn y gyngerdd, ac ni wnai dim y tro ond ei gael i Drecastell i gynnal cyngerdd a rhoddi'r holl elw iddo."
Heblaw y "Gohebydd" a'r Parch. T. Levi, yr oedd ganddo gyfaill a chefnogydd selog yn Ieuan Gwyllt. Ceir apêl ar ran ei gyngherddau, neu ynteu gyfeiriad atynt yn rheolaidd cyn gwyliau haf a gaeaf yr Athrofa; ac ar ol y gwyliau adroddiad llawn a gwresog amdanynt. Wele'r apêl gyntaf yn Rhagfyr, 1868:
"Mr. Joseph Parry (Pencerdd America).
"Mae yn hysbys i'n darllenwyr fod y cerddor athrylithgar Mr. Joseph Parry wedi dod drosodd o'r America er ys amryw wythnosau, a'i fod yn bresennol yn y Royal Academy of Music yn Llundain. Daeth ei gydwladwyr yn America allan yn ardderchog, a ffurfiwyd trysorfa dda yno er ei gynorthwyo i gael addysg gerddorol; ac ymddengys i ni y byddai ei gydgenedl yng Nghymru yn gosod anrhydedd arnynt eu hunain drwy ddyfod allan i roddi eu cynhorthwy'n galonnog tuag at yr un achos. Y mae traul byw yn Llundain a thraul yr Athrofa yn fawr; a phan ychwanegom fod ei wraig â dau fychan (Joseph Haydn a Mendelssohn) i'w cynnal yn America hefyd, gwelir mai nid swm bychan a'i cynorthwya i gael hyd yn oed ychydig fisoedd o addysg. Deallwn ei fod yn bwriadu cymryd tua mis o wyliau adeg y Nadolig; a bydd yr adeg honno yn fanteisiol i wahanol