drefi ac ardaloedd poblog yng Nghymru i weld a chlywed un o gerddorion mwyaf athrylithgar ein cenedl, ac ar yr un pryd i gynorthwyo trysorfa ei addysg."
Cymerer a ganlyn o hanes y gyfres gyntaf o gyngherddau: "Yn ystod y gwyliau daeth Pencerdd America i lawr i Gymru er mwyn cynnal nifer o gyngherddau tuag at ei gynorthwyo i aros am gymaint o amser ag sydd alluadwy iddo yn y Royal Academy of Music. Bu yn beimiadu yn Eisteddfod y Cymrodorion Dirwestol ym Merthyr, a chynhaliodd nifer fawr o gyngherddau yn y De a'r Gogledd, megis Aberdâr, Abertawe, Dowlais, Porthmadog, Waenfawr, Caernarfon, a Bryn Menai. Deallwn fod ei holl gyngherddau yn dra llwyddiannus, a'i fod yn rhoddi bodlonrwydd cyffredinol fel canwr, yn gystal ag fel cyfansoddwr a chwareuwr. . . . Yr oedd y darnau a genid gan y Pencerdd i gyd o'i waith ei hun. Yr oedd y nifer i gyd yn lled fawr, ac yn cynnwys 'Hoff Wlad fy Ngenedigaeth' 'The Gambler's Wife' 'Dangos dy fod yn Gymro' 'Y Trên' 'Y Tŷ ar Dân' 'Jefferson Davies' 'Yr Eneth Ddall' Chwareuai yr harmonium gydag ef ei hun ymhob un o'r damau. . . . Yr ydym yn deall ei fod wedi ennill ffafr neilltuol yn yr Athrofa gerddorol; ac y mae yn dda gennym ddeall fod y galwadau am ei wasanaeth yn ystod gwyliau yr haf y fath fel ag y caiff ei alluogi i aros yno am fwy nag y tybiai pan yn dyfod trosodd." Y mae yr hanes diweddaf a gawn yn y "Cerddor," ar ol gwyliau haf 1870, yn ddiddorol:
"Yn eu hymweliad diweddaf â Chymru profodd Miss (Megan) Watts a Mr. Parry eu bod yn dringo i fyny yn eu celfyddyd ardderchog gyda phrysurdeb a llwyddiant mawr, ac os estyna Rhagluniaeth fawr y nefoedd iddynt fywyd ac iechyd, byddant o wasanaeth dirfawr yn y byd cerddorol, ac yn anrhydedd i'r genedl y perthynant iddi. ' . . . Ei gyfansoddiadau ei hun a ganai Mr. Parry ymron yn ddieithriad; a gŵyr ein darllenwyr mai nid caneuon cyffredin ac ysgafn yw y rhai hyn, ond fod pob un ohonynt yn efrydiaeth ynddi ei hun—yn sein-ddarlun o ddyfeisiad darfelydd cryf, wedi ei weithio gan law fedrus. Ymysg y rhai hyn y mae 'Y Milwr' 'Gwraig y Meddwyn' 'Y Gwallgofddyn' 'Y Danchwa' 'Yr Ehedydd'