Prawfddarllenwyd y dudalen hon
cenedlaethol cerddoriaeth Gymreig yn well drwy ddychwelyd
i Gymru a derbyn y Gadair a wesgir arnaf. Yr wyf yn
gwneuthur hynny, er fy mod yn gwybod y golyga aberth
ariannol mawr i mi a'm teulu. Yr ydym yn awr fel teulu'n
gadael ein llu cyfeillion annwyl,—fy mhriod, ei rhieni, ei
chwaer a'i brawd, a minnau, fy mam annwyl yn ei henaint,
a'm brawd a'm dwy chwaer. Ac wele ni yn awr unwaith eto
ar y Werydd llydan ar fwrdd yr agerlong The City of Brooklyn (?)—fy chweched mordaith. Wedi cyrraedd Lerpwl, derbyniais frysneges yn gofyn i mi feirniadu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Symudasom i Aberystwyth ym Medi, a
dechreuais ar fy nyletswyddau colegawl yn Hydref.