mae ganddo alluoedd nodedig at hynny; cyfansoddodd lawer o ddramau cysegredig a beirniadodd lawer o donau cynulleidfaol. Treuliodd y Saboth, Ionawr 28ain, 1872, gyda'r eglwysi Cymreig yn Shenandoah City, Pa. Cytunasant i gadw cyfarfod canu nos Saboth, ac i wrando ar gynghorion gwerthfawr Mr. Parry. Cawsant wledd gerddorol gysegredig. Gallai wneuthur lles mawr felly bob Saboth, ar ei deithiau drwy'r wlad. Ond credaf fod gan yr Arglwydd waith mwy eto ar gyfer Pencerdd Parry."
Yna cawn fel is-deitl:
"Athrofa Gerddorol Gymreig yn America; dan arolygiaeth ac addysg Joseph Parry, Ysw.—Trwy gydymdrech parhaus gallai Cymry America ei chodi a'i chynnal yn anrhydeddus, yn Columbus, Cleveland, neu Cincinnati, O., neu yn Philadelphia, Pittsburgh, neu Hyde Park, Pa.; neu yn New York neu Utica, N.Y.; neu rywle arall a farnont yn fwyaf cyfleus er addysgu cerddoriaeth foesol a chysegredig. Mae yn awr oddeutu 384 o eglwysi Cymreig yn America, a phe cyfrannent 20 doler bob un ar gyfartaledd, byddai y cyfanswm blynyddol yn 7,680,000 doler at y fath achos teilwng. Gyda'r swm blynyddol yna gellid talu cyflog blynyddol anrhydeddus i Mr. Parry, a rhai athrawon eraill cynorthwyol iddo; a dichon y gellid estyn ychydig gynhorthwy i feibion a merched i gael addysg gerddorol yn yr athrofa honno. Yr wyf fi a'm heglwys fechan ffyddlon yn Shenandoah City wedi penderfynu casglu 20 doler yn flynyddol at y fath achos teilwng, ac yn gobeithio y bydd i'r holl eglwysi ymaflyd yn ddioed yn yr achos o ddifrif, a phenderfynu ffurfio pwyllgor cyfrifol ac anrhydeddus i'w ddwyn i weithrediad. Eglwysi a gweinidogion Cymreig America o bob enwad yn ddiwahaniaeth! Penderfynwch o un galon ar unwaith i godi "Caniadaeth y Cysegr" i anrhydedd, drwy roddi cefnogaeth deilwng i Mr. Parry, y gŵr a anrhydeddodd y nef mor fawr, ac sydd yn teilyngu ein parch a'n anrhydedd ninnau."
Gellir gweld yr apêl braidd anghydryw hon ymhlith yr hysbysebau ar ddiwedd "Hanes Cymry America" gan Iorthyn Gwynedd. Y mae'n anodd gweld beth oedd prif amcan ei ysgrifennu, ai "Caniadaeth y cysegr" ai ynteu yr Athrofa Gerddorol Gymreig. Eglura i ni beth olygai