Mr. Parry yn ei gyfeiriad at ei "sylwadau nos Sabothau." Ni sonia Parry ei hun o gwbl am yr "Athrofa Gerddorol"; ond gwyddom ei bod wedi ei chychwyn cyn y diolch uchod. Ni wyddom beth a wnaed mewn ffordd o gynhorthwy gan yr eglwysi ar linellau Iorthyn, ond hysbysir ni yn "Y Gerddorfa" am Rhagfyr, 1872, fod Goleg Cerddorol Mr. Joseph Parry, Mus. Bac. wedi ei gychwyn; tra dywed rhifyn Ebrill, 1873, "Gwelwn fod y "Danville Musical Institute", o dan arolygiaeth Mr. Joseph Parry, yn dra llwyddiannus; y mae yno yn bresennol ddau a deugain o fyfyrwyr, a bydd rhaid i Mr. Parry wrth athro cynorthwyol." Diau fod yna wirionedd yn y si na chyrhaeddodd yr ysgol y llwyddiant uchaf o ran trefn a disgyblaeth, ond dengys y llythyr a ganlyn o'r "Gerddorfa" am Hydref, 1873, oddiwrth Mr. H. E. Thomas, fod ei rhagolygon yn dda: "Ar fy nhaith drwy rannau o Pennsylvania, gelwais yn y Musical Institute yn Danville. Cefais gryn ymddiddan â'r cerddor athrylithgar a dysgedig Mr. Parry. Aethai yn union, fel yr oedd yn naturiol, at y gwahoddiad y mae efe wedi ei dderbyn i fod yn athro cerddorol ym Mhrifysgol Cymru. Teimla yn bryderus iawn, a hawdd y gall. Y mae yn gwneuthur yn dda yn Danville. Gwn y bydd yn gryn aberth ariannol iddo ar y cyntaf. Y mae Danville yn harddach nag y tybiais. Yr oeddwn yn benderfynol o'i annog i dderbyn y cynnyg, ond wedi gweld ei le, a chlywed am ei ragolygon yn Wilkesbarre, y dref fwyaf aristocrataidd yn sir Luzeme, yr oeddwn innau yn petruso. Nid wyf yn gwybod yn sicr pa faint y mae yn ennill o gyflog, ond y mae yn gwneuthur yn dda. Gwn fod athrawon cerddorol llawer llai eu bri nag ef yn ennill rhwng tair a phedair mil o ddoleri y flwyddyn yn y ddinas hon. Eto y mae ei galon gyda'i genedl. Gwasanaethu yr Americaniaid y mae yn bennaf yn y man lle mae; teimla mai y Cymry a'i pia ef. Tra thebyg gennyf mai yn Aberystwyth y bydd cyn blwyddyn i heddyw. Os daw, gwnaed y genedl yn fawr ohono. Y mae yn ddyn gwerthfawr ymhob ystyr. Chwarae teg i'r 'Gohebydd'—os llwyddir i gael Mr. Parry i Gymru, bydd y prif glod yn ddyledus iddo ef am ei lygad craff i'w ddethol ef allan, ac i'w ddawn ddeniadol i'w ennill yn ol i 'wlad y gân'"