Prawfddarllenwyd y dudalen hon
VII. Ei Gyfnod Aur,
Hunan-gofiant:
1875—6—7: Daw llawer o efrydwyr cerddorol i'r Coleg—tri o America, hyd yn oed.
1878: Af i mewn am y radd o Mus Doc. yng Nghaergrawnt yn llwyddiannus. Derbynia Mr. D. Jenkins y radd o Mus. Bac.—y cyntaf ar fy ol i, a minnau yr unig English Mus. Doc. yng Nghymru, tra y mae agos yr holl gerddorion a fedd radd Cymreig (Welsh Degree Musicians) yn ddisgyblion i mi.
Y mae perfformio Jerusalem ar gyfer y Mus. Doc. yn
eglwys St. John's yng Nghaergrawnt gan gôr Aberdâr, y
daith o ddeg niwrnod, gyda cholled o £300, a chyhoeddi
"Blodwen" am £400, yn ergyd ofnadwy i'm llogell wag!
Rhoddir "Jerusalem" a "Blodwen" hefyd yn yr Alexandra
Palace, Llundain, ym Mryste, Caerdydd, ac amryw o
drefi y Deheudir.