Gelwir honno yn oes aur cenedl pan fo'i delfryd a'i hamgylchfyd yn un â'i gilydd. Yn yr ystyr hon cyfnod Aberystwyth yw cyfnod aur Joseph Parry. Pan ymwelodd â'r Coleg, ac â'r dosbarth cerddorol dan Mr. Jenkins, mor ddiweddar a 1900, ei dystiolaeth ger eu bron ydoedd, mai yno y treuliodd flynyddoedd mwyaf dedwydd ei fywyd." Hawdd gennym gredu hyn, am amryw resymau.
Yn awr yn unig y gallai deimlo ei fod wedi ymsefydlu mewn bywyd, a rhedlif uchelgais ac anturiaeth i fesur wedi ymsefydlogi. Efallai fod yna un tymor blaenorol—wedi dyddiau plentyndod—pryd y teimlai'n fwy neu lai sefydlog, sef pan yn gweithio yn y gwaith haearn yn Danville, a chyn deffro o'i uchelgais cerddorol. Prawf y ffaith iddo ymbriodi na roddai i gerddoriaeth le uwchlaw yr "ail ffidyl" yn ei fywyd, ac na edrychai ati am foddion cynhaliaeth. Eithr wedi ennyn ei nwyd gerddorol, ac iddo yntau ddarganfod fod ganddo ddawn y tuhwnt i'r cyffredin ac ymroddi i'w datblygu a'i disgyblu—"o don i don" fu hi yn ei hanes hyd yn awr. Hyd yn oed wedi dychwelyd i America, a sefydlu ei Ysgol Gerddorol yno, ni ellir dywedyd ei fod wedi cyrraedd unrhyw fath ar "hafan ddymunol"—er yr ymddengys fod ei ragolygon yn dda; rhwng tonnau anturiaeth yr oedd ei gwch ar y goreu, a'r cyfrifoldeb am ei forio yn gwbl ar ei ddawn a'i ddwylo ei hun. Ond wele ef yn awr, er nad oedd ei gyflog yn fawr, yn rhydd o orthrwm y pryder a'r ansicrwydd hwn, i roddi ei holl íeddwl a'i amser i wasanaeth y gelfyddyd a garai.
Yna, er mai i Goleg Aberystwyth y daeth fel athro, ac er na fuasai wedi dychwelyd i Gymru onibai am hynny, eto i Gymru y daeth yn ei weithgarwch cerddorol arall, fel beirniad, datganydd, ac arweinydd: yr oedd yng Nghymru eisoes fel cyfansoddwr. A chafodd ei dderbyn gan Gymru gyfan nid yn unig gydag edmygedd arwr- addolgar, ond gyda serch a breichiau agored. Ni wyddom sut i gyfrif am hyn, ond prin y llwyddodd neb i daro dychymyg Cymru ieuanc yr amser hwnnw, ac i fynd i'w chalon, fel efe. Diau fod yr hanes amdano fel bachgen bach o Ferthyr, ac yna o America, yn gweithio yn y gwaith haearn yn ffurfio rhan o'r swyn; ac yr oedd yr hanes am ei ymgyrchoedd borëol yn yr eisteddfodau gynt,