ddilynol, a ninnau'n rhoddi'r anrhydedd iddo o eistedd— yn y brake— yng nghadair farddol glaslanc o'r lle a'i henillasai yn yr eisteddfod; ac mor ddifyr ydoedd yn ein cwmni, nifer o enethod a llanciau Emlyn, ac fel y mwynhai y noson hafaidd gan alw ein sylw at ei chyfaredd.
Os nad wyf yn camsynied, yr oedd ganddo gyngherddau eraill y nosweithiau dilynol ar y ffordd adref i Aberystwyth. Pa sut yr oedd hynny'n cydgordio â'i ddyletswyddau colegawl fel athro sydd gwestiwn arall, ond un nad oedd yn blino nemawr arno ef.
Ag eithrio'r caneuon a wnaethai ef ei hun, yr oedd yna ogwydd cryf yn y cyngherddau hyn at y dieithr a'r tramorol. Pethau felly ddysgid yn bennaf yn y Coleg. Golygai ef yn ddiau iddynt fod yn foddion addysg uwchraddol i'r myfyrwyr, ond caent hwy, rwy'n siwr, y pleser pennaf ohonynt drwy eu bod yn ein synnu ni, bobol y wlad! Ond codai gohebwyr cerddorol eu dwylo, gan ddatgan y gobaith na wnai'r myfyrwyr "anghofio'u naturioldeb a'u gwreiddioldeb eu hunain a newid y ddawn naturiol oedd ynddynt am rodres golegawl."
Coeliaf mai hwy a ddygodd ganeuon a geiriau Italaidd i'n clyw ni yn Nyfed gyntaf, er fod Parry ei hun yn arfer eu canu pan yn yr Athrofa Frenhinol, fcl y dengys hanes ei gyngherddau. Wedi'r amser hwnnw yr ysgrifennodd Watcyn Wyn ei gân ddynwaredol ddi-ail, ond nid oes dim ellir ei ddywedyd am y cyngherddau hynny a esyd allan eu hawyrgylch a'u hasbri yn well.
Ma 'nhw'n odli, ac yn codli,
Ac yn iapo, a chalapo,
Ninnau'n wylo, a chlapo dwylo
Am fod Gwalia'n troi'n Italia,
Tra môr, tra môr! Oncôr, oncôr!
Gwêl di Ianto a'i gariad ganto,
Wedi talu am gal rali,
Yn llygadu ar y ladi;
Gwêl di'r lelo'n troi'i umbrelo—
"Tip to! tip to! Brav o! Brav o!"
Gwalia, Gwalia, mae Italia
Ar dy sodlau gyda'i hodlau,
Mendia, mendia, tendia, tendia,
Tro, tro! Ffo, ffo! Ha, ha! Ho, ho!