"Beth ti'n whalu! dyna rali!" Rhyfedd na fuasai Parry wedi ysgrifennu cân i'r geiriau yna—efallai ei fod yn teimlo'n euog ei hun! ac y byddai'n "hoist on his own petard." Y mae y ddau beth bychan a ganlyn (o'r "Gerddorfa") yn dangos gymaint ei enwogrwydd y tu mewn a'r tu allan i'r Coleg y pryd hwnnw. Ceir yn y cyntaf hanes un o gyngherddau'r Coleg, yn yr hwn y canwyd gweithiau'r "Meistri Bach, Beethoven, Handel, Haydn, Schubert, Schumann, Weber, Wagner, Mendelssohn, Rossini, Bennett, a Dr. Parry."Gwelir fod Parry eisoes ym marn ei ddisgybl edmygol ymhlith y meistri!
Y llall yw nodyn o gymeradwyaeth ganddo ef yng ngholofn yr hysbysebau—i organ neilltuol ar gyfrif ei "mellow and pipe-like tone, and external appearance"— yn dangos fel y ceisiai masnach ddefnyddio ei safle a'i enwogrwydd—a'i ddiniweidrwydd!
Gyda'r galw cyson oedd am ei wasanaeth fel beirniad, datganydd, ac arweinydd cymanfaoedd canu, ac ar gyfrif y tâl da (da i Gymru) a godai am ei wasanaeth, diau fod y cyfnod yma yn un "aur" mewn mwy nag un ystyr iddo. Eto, a bod yn deg, rhaid i ni briodoli dedwyddwch pennaf y cyfnod nid i'w safle mewn coleg, na'i boblogrwydd mewn gwlad, nac i aur y farced, na gŵn y Doethur, ond i'r ffaith mai yn awr y cafodd fantais i ddangos ei allu creol dan ddylanwad dysg fwy, ac ar ol ysbaid o seibiant cymharol i gasglu nerth.
Fel y mae mynydd-dir Pumlumon yn arllwysfa ddwfr (watershed) gwlad gyfan, yn taflu allan i wahanol gyfeiriadau afonydd mawr a bach, rhai'n ysgafn a hoenus, rhai'n chwyrn a chryf, rhai'n fawreddog ac urddasol—yr Hafren a'r Wy, Towy a Theifi, Ystwyth a Rheidiol, a llu o ffrydiau llai: y mae cyfnod Aberystwyth yn hanes Parry yn rhywbeth tebyg o ran y gweithiau a gyfansoddwyd neu ynteu a gychwynnwyd yno. Ac nid yr hen ffrydiau cân wedi eu gloywi a'u dyfnhau a'u llydanu yn unig geir yma, ond dechreuadau newydd, o leiaf o ran ffurf a phwynt. Yr oedd wedi cyfansoddi "Gantata'r Adar" yn flaenorol, a rhai darnau eraill hawdd a syml, ond yn awr yr ymroddodd i r llinell yma o wasanaeth cerddorol i'r plant a'r werin. Dechreuwyd cyhoeddi "Telyn yr Ysgol Sul" yn 1879, a