hanner dwsin o operäu o fath y rhai ddeuant o'r Eidal, gyda rhagorach saerniaeth—cynghanedd a rhan-weithiadaeth—na ddaeth i feddwl yr un Eidalwr operataidd y gwn i amdano.'
"Yr oedd Joseph Parry yn medru chwarae ar bob tant o'r delyn,—o'r llon a'r nwyfus hyd ddyfnderoedd tristwch a phrudd-der. Esgynnodd yn aml i uchelderau arddunol. Y mae rhai o'i ddarnau mor llawn o deimlad dwfn ag y gallant ddal: o hyn ceir enghraifft dda—heb sôn am eraill—yn y tonau genir heno, megis y 'Dies Irae' (tôn arddunol, yn rhagori hyd yn oed ar ('Aberystwyth' yn fy marn i, fel cerddoriaeth), 'Pennsylvania' a 'Llangristiolus.' Am ddisgrifiad o hiraeth alltud am ei wlad ni wn am ddim gwell na'i rangan brydferth, 'Ffarwel i ti, Gymru fad' ar eiriau Ceiriog. Yr oedd ef yn gwybod trwy brofiad beth oedd croesi'r Werydd, gan 'adael ar ein holau, beddau mam a beddau tad '; ac y mae ei deimlad wedi ymglymu â geiriau Ceiriog mewn dull anfarwol yn y rhangan ddwys-deimladol hon. Ni wn am ddim mwy erfyniol a defosiynol mewn cerddoriaeth na'r weddi yn 'Ar don o flaen gwyntoedd' Yn yr unawd arddunol yn ei 'Gytgan y Pererinion' y mae wedi esgyn uwchlaw cymylau amser: os bu dyn erioed yn ysbrydoledig yr oedd Joseph Parry yn ysbrydoledig pan ysgrifennodd y gytgan hon, yn yr hon y gesyd wynfydedd gwlad y gwynfyd ger bron ein llygaid.
"Nid af ar ei ol heno drwy ei wahanol ddulliau. Ceir y llon a'r nwyfus yn ei 'Sleighing Glee ' ysgafn a sionc; y siriol a'r tirion yn ( O, na bawn yn seren '; neu ' Dduw, bydd drugarog '; a'r cynhyrfus a'r cyffrous yn ( Y Storm' 0 felyster a mwynder ni ellir cael gwell esiampl na'r anthem genir yma heno-( Yr Arglwydd yw fy Mugail' Am hon ni allaf wneuthur yn well na dyfynnu geiriau Mr. David Jenkins, ei gyfaill mynwesol a'i hen ddisgybl, yn ' Y Cerddor' ar farwolaeth Dr. Parry. ( Crëwyd cyfnod yn hanes cerddoriaeth gysegredig Cymru' medd Mr. Jenkins, ' pan gyhoeddwyd ei ( Chwech o Anthemau '; ac y mae 'Yr Arglwydd yw fy Mugail' yn em ddisglair na lwyddodd un cyfansoddwr, Saesneg, tramor, na Chymreig, i wneuthur cystal. Wrth gwrs, cofiwn drefniad Schubert i leisiau