a Mr. J. Ballinger, M.A., Aberystwyth; Mr. D. R. Phillips, Abertawe; a'r Parchn. T. C. Edwards, D.D. (Cynonfardd), a D. M. Davies, Abertawe. Cefais ganiatâd parod Mr. D. J. Snell, Abertawe, i archwilio MSS Parry sydd yn ei feddiant ef. Drwy Dr. Protheroe, cafwyd gan Mr. Ted Lloyd, Utica, a nifer o'i gyfeillion, i archwilio'r "Drych" am y cyfnod 1860—1868. Yn y wlad hon cefais help Mr. Alban Davies a Mr. David Jones (yn Aberystwyth), a fy mab Emrys (yn Llundain) i archwilio, a darllen, a chymryd nodiadau.
Am fenthyg llyfrau yr wyf yn ddyledus i Mrs. Denzil Harries, Caerfyrddin, a fy chwaer, Brynderwen, Castellnewydd Emlyn; hefyd i'r Parch. D. T. Glyndwr Richards, B.A., B.D., Mr. Dunn Williams, G. & L., a Mr. John Morris, Caerfyrddin; ac am hanesion, etc. am Dr. Parry i'r Parchn. T. C. Edwards, D.D., H. Elfed Lewis, M.A., D. C. Williams, St. Clears; a Mri. Tom Price, David Lloyd, Conwil Evans, a D. Morgans (Cerddwyson). Cefais hefyd fenthyg darlith Mr. Price ac ysgrifau Mr. Morgans ar Dr. Parry.
Fel gyda chofiant Emlyn bum yn fíodus i gael help un yn cyfuno caredigrwydd cyfartal i'w wybodaeth helaeth o Gymraeg hen a diweddar yn y Parch. Dyfnallt Owen. Darllenodd a chywirodd y proflenni, ac awgrymodd lawer o welliannau. Iddo ef, a darllenydd y swyddfa argraffu, y mae'r clod yn ddyledus am gymaint o lendid oddiwrth wall a mefl a berthyn i'r Cofiant.