IX. "Yr Awdur Epiliog Hwn,"
"Y MAE yn syn meddwl," meddai'r Athro David Jenkins, "gymaint o waith yr aeth Dr. Parry drwyddo yng nghanol y fath brysurdeb, a'r nifer fawr o gyfansoddiadau a gynhyrchodd yn Aberystwyth. Yma y cyfansoddodd "Codwn Hwyl," "Y Ddau Forwr," "Y Bachgen Dewr," "Y Gardotes Fach," "Yr Eos," "Yr Ystorm," Cantata "Joseph," "Emmanuel," "Blodwen," llawer o "Saul o Tarsus," "Cytgan y Mynachod," "Nebuchadnezzar," a llawer o rai eraill."
Yn 1878 ysgrifennai Mr. Levi:"Mae ei athrylith yn nodedig o gynhyrchiol. Gwyddom ei fod eisoes wedi cyfansoddi dros gant o ganeuon (songs); llawn trigain o anthemau a chytganau; hanner cant o donau cynulleidfaol; nifer mawr o quartettes, trios, duets, glees, a darnau at wasanaeth yr organ ac at wasanaeth offer tannau; pedair o overtures for full orchestra; tair o sonatas i'r piano; ac un grand symphony; pump cantata ac un opera Gymreig."
Dyna doreth rhyfeddol o weithiau amrywiol, mawr a bach! Ond y mae inni gofio fod Dr. Parry yn gyfansoddwr cyflym, fel y dengys y paragraff canlynol o"Musical Opinion"(Mehefin, 1900):"Y mae gan yr anturiaeth ddiweddaraf mewn newyddiaduriaeth ddimai mewn colofn o'r papur dan y teitl, 'The world over,' baragraff ar 'The lightning composer.' Y boneddwr a anrhydeddir â'r disgrifiad hwn yw Dr. Joseph Parry, yr hwn a gyflawnodd y gorchestwaith cerddorol a ganlyn. Pan oedd y Doctor dysgedig yn arwain rehearsal mewn lle o'r enw Briton Ferry awgrymwyd iddo gyfansoddi tôn i'w galw ar enw y lle. Gydag, efallai, ryw bum neu chwe awr i'w athrylith flodeuo a dwyn ffrwyth, llwyddodd Dr. Parry yr un hwyr i gynhyrchu tôn wreiddiol o'i ymennydd; nid y felodi'n unig, ond y rhannau alto, tenor, a bass yn ogystal. Nid rhyfedd bod yr ysgrifennydd talentog yn y 'Daily Express' yn cyfeirio at hyn fel gorchest gerddorol Ar yr un pryd, efallai, y caniateir i ni ymholi a glywodd y newyddiadur crybwylledig sôn erioed am rai enwogion blaenorol,