fyny'n llai i hunanfoddhad. Cyfansoddodd Rossini ei Opera,"Barbwr Seville" mewn tri diwrnod ar ddeg, heb fynd allan o'r tŷ o gwbl, a heb eillio chwaith! "Rhyfedd," meddai cyfaill wrtho, "i chwi fynd trwy y 'Barbwr' heb eillio." "Pe eillid fi, oedd yr ateb, "buasai'n rhaid i mi fynd allan; a phe awn allan ni ddeuwn yn fy ol mewn pryd." A dywedir wrthym am Parry, pan ddeuai'r divinus afflatus arno, yr arferai "fynd at ei lyfr-rwymydd, gan orchymyn rhwymo nifer o gyfrolau o bapur cerdd, a'i fod wedyn yn brysio i'w llanw i fyny, y rhan offerynnol yn ogystal, gan roddi popeth i mewn fel y deuai, hen a newydd, gwreiddiol neu ddyfynedig, gyda'r canlyniad fod yna lawer o waith medrus a thalentog, ond anghyfartal, ac nid y goreu o'r hyn allasai ac a ddylasai gynhyrchu." Rhydd Cynonfardd yr enghraifft a ganlyn:
"Pan oedd Dr. Parry a minnau yn croesi y Werydd tua New York ar yr agerlong Campania yn Awst, 1898, ceisiodd ef gennyf gyfansoddi geiriau cân iddo allu ei chanu yng nghyngerdd y llong nos drannoeth. Felly bu; rhoddais y geiriau iddo yn y bore, ac yr oedd y gerddoriaeth yn barod erbyn yr hwyr. Awgrymodd ef y mesur."
Nodir "Aberystwyth" ambell i waith fel enghraifft o gyfansoddi cyflym yr awdur: yn ol yr hanes galwodd un o wŷr Hughes & Son, Wrecsam, gyda Parry y Sul gyda chais oddiwrth Tanymarian am dôn ar y geiriau "Beth sydd imi yn y byd?"ac erbyn dydd Mercher yr oedd y dôn yn barod iddo. Yn anffodus, y dyddiad uwchben y dôn yw 1877 (a dywed Parry yn ei Hunangofiant iddo'i chyfansoddi yn 1876), tra na chyhoeddwyd Atodiad Tanymarian cyn 1879, ac yn ol yr hanes yr oedd ar fin dod allan, heb ond eisiau tôn ar y geiriau "Beth sydd imi, etc." pan ddigwyddodd yr uchod. Y tebygrwydd gan hynny yw fod y dôn eisoes yn bod, ac na wnaeth y awdur ond ei chaboli, neu ynteu ei chyfaddasu i'r geiriau.
Yr oedd Parry hefyd yn weithiwr heb ei fath: dywed Mr. Jenkins nad adnabu erioed weithiwr caletach. Mewn beirniadaeth o'i eiddo ar un o weithiau Alaw Ddu, fe ddywed Parry,"Y mae yr awdur yn adnabyddus yn neilltuol yn y Polyphonic (amryw-leisiol) style o gyfansoddi sydd yn fwy o gynnyrch llafur, dysg, ac ymarferiad mawr,