felly oedd agos yn gyson a llydan agored i fodau disglair (chwedl Bunyan) o wledydd pell.
Edrydd y Parch. D. G. Williams, St. Clears, amdano'n mynd i'w ymrwymiad yn Ferndale un prynhawn, ac wedi gadael Caerdydd yn dechreu cyfansoddi tôn, gyda'r canlyniad iddo anghofio newid yn y Porth a gorfod cael cerbyd i'w nol dros y mynydd o ben uchaf y Rhondda. Penderfynwyd galw'r dôn honno'n "Pererin."
Daeth "Llangristiolus" i fod ac yntau o ran y corff mewn gardd yn Llangristiolus, Môn, ac aml i dôn, a chân, a chorawd arall mewn modd cyffelyb.
Help arall iddo yn hyn oedd ei gof cerddorol rhyfedd, fel eiddo llawer cerddor arall o fri. Medd Mr. Levi:"Gellir nodi fod ganddo gof digyffelyb, ag sydd yn nodedig o wasanaethgar iddo. Mae yn cyfansoddi yn barhaus- yn ei wely, yn y gornel, ar hyd y ffordd, ac yn y trains; ac nid oes perigl iddo anghofio yr un frawddeg na nodyn. Nid yw un amser yn dechreu ysgrifennu yr un dôn na chân nes bydd wedi ei gorffen yn ei feddwl. Ni fydd byth yn defnyddio copi i ganu na chwarae mewn cyngherddau, nac yn mynd â hwy oddicartref. Dywedwyd wrthym iddo, ychydig amser yn ol, chwarae ei opera, yr hon a gymerai dair awr i fynd drosti, bob nodyn heb gopi yn ei olwg, a dau neu dri o gerddorion enwog â'r copi ganddynt ar y bwrdd yn dilyn y chwareuwr. Mae hyn bron yn anghredadwy. Dywedai wrthym ryw dro nad yw ef yn hawlio un credyd iddo ei hun am hyn, oblegid 'na all oddiwrtho.' Nid yw cofio yn un orchest iddo. Unwaith y daw i'w feddwl yno y bydd, ac ni all llafur nac amser beri iddo ei anghofio. Dechreuodd arfer ei hun gyda hyn wrth weithio yn y felin. Wrth ei waith o flaen y rolls y cyfansoddai yr oll, ac wedi gorffen cyfansoddi, äi adref wedi gorffen ei waith i'w ysgrifennu.
Tra yr ydym yn gyfarwydd â hanes cof mawr Macaulay, ac eraill, prin y mae y cof cerddorol yn wybyddus i ni, nac yn wrthrych syndod. Meddylier am gof Mozart ieuanc, ac efe eto ond tair ar ddeg oed yn mynd i'r Capel Sistine yn Rhufain i wrando Mass Allegri, y "Miserere" glodus, yr hon nid cyfreithlon ei chopïo, ac yntau yn ei thrysori i gyd yn ei gof! Neu meddylier am Berlioz