pan yn ymgeisydd am le yng nghorws opera yn ateb y cwestiwn, tl Pa le mae eich miwsig?" drwy ddywedyd, "Nid yw gennyf, ond medraf ganu popeth a roddwch i mi ar yr olwg gyntaf." "Ond nid oes gennym un llyfr canu yma?" "Wel, beth a fynnwch? Medraf ganu o'm cof bob nodyn o operau Gluck, Piccini, Salieri, Rameau, Spontini, Gretry, Mozart, a Cimarosa." Eto y Berlioz hwn a edrydd gydag edmygedd sut yr arferai fynd pan allan o hwyl (yr hyn a ddigwyddai'n aml) i geisio Mendelssohn i'w gysuro â'i ganu. "Gyda pherffaith dymer dda," meddai "gosodai ei ysgrifbin o'r neilltu wrth weld fy sefyllfa druenus, gan eistedd wrth y piano, a chyda rhwyddineb rhyfeddol i gofio'r scores mwyaf cymhleth, a ganai beth bynnag a ofynnwn iddo."
Pe llosgasid symffonïau Beethoven, gallasai Wagner eu hatgynhyrchu. Yn yr un modd nid oedd eisiau i Mr. Tom Stephens anrhegu Parry a safe i ddiogelu ei weithiau ond fel amddiffyn i'r papur a'r nodau, gan eu bod i gyd gan mwyaf yng nghof yr awdur. Eto, er y darllenwn am gerddorion yn cyfansoddi gwaith cyn gosod nodyn i lawr ar bapur—fel Mendelssohn ei "Walpurgis Nacht— rhaid iddynt, fel rheol, gael amser a chyfle i dderbyn a chadw argraffiadau: gwasanaethgar yw'r cof i'w hatgynhyrchu yn ol llaw, tra nad yw'n ddigonol o gwbl i'r gwaith o ddilyn a chroniclo aneirif donnau a rhediadau gorlif awen pan ddêl; ac felly ä llawer o ddrychfeddyliau gwerthfawr ar goll oherwydd diffyg mantais i'w sicrhau mewn du a gwyn.
Daliodd Parry ati i gynhyrchu hyd y diwedd, er bod yn analluog i gyhoeddi. "Buom yn gwasgu arno," meddai Watcyn Wyn "paham na buasai yn cyhoeddi rhai pethau oeddem am weld; ond dywedai braidd yn ddiamynedd:
Nid fy ngwaith i yw cyhoeddi; fy ngwaith i yw ysgrifennu. "Beautiful, but sad," onide. Dim ond y rhai a "gâr gerdd yn angherddol" ac er ei mwyn ei hun, fedr eistedd i lawr i ysgrifennu gweithiau mawrion fel efe, a llawer cerddor[1] arall, heb obaith gweld eu cyhoeddi
- ↑ Er i Cherubini gyfansoddi dros bedwar cant o ddarnau, ni chyhoeddwyd ond tua phedwar ugain ohonynt.