na'u canu gan eraill. Eto gwell hyn yma na'r hyn a edrydd Berlioz amdano'i hun: "Breuddwydiais un nos am symffoni. Pan ddeffroais gallwn alw i gof y symudiad cyntaf agos i gyd—allegro yn A leiaf, ond wrth fynd at y bwrdd i'w gosod i lawr meddyliais yn sydyn: 'Os gwnaf hyn, fe'm tynnir ymlaen i gyfansoddi'r gweddill, a chan fod fy syniadau'n wastad yn ymddatblygu aiff y cyfansoddiad yn un annhraethol faith; cymer i mi dri neu bedwar mis i'w gwblhau; ni fyddaf yn abl i yrru fy ysgrifau arferol i'r papur, a thyna ddiwedd ar fy incwm. Pan ysgrifennir y symffoni bydd i mi—mor wan ydwyf—gael rhywun i'w chopïo a mynd i ddyled felly o ryw fil neu ddeuddeg cant o ffrancs. Yna caf fy arwain i roddi cyngerdd i'w pherfformio: ni fydd y derbyniadau ond prin hanner y treuliau, a chollaf arian. Nid oes gennyf arian. Bydd fy mhriod gystuddiedig heb y cysuron angenrheidiol, a threuliau fy mab ar fwrdd y llong heb eu talu.' Gyda theimlad o ddychryn teflais fy ysgrifbin i lawr, gan ddywedyd 'Yfory byddaf wedi anghofio'r symffoni.' Ond ha! Y nos ddilynol dychwelodd y motif ystyfnig yn fwy clir na chynt—gwelwn ef wedi ei ysgrifennu allan. Neidiais i lawr yn gyffrous, gan ei hwmian—ond eto daliodd fy mhenderfyniad fi'n ol, a gwthiais y demtasiwn o'r neilltu. Syrthiais i gwsg, a'r bore dilynol, yr oedd fy symffoni wedi mynd am byth.
"'Y llwfryn!' meddai'r penboethyn ieuanc. 'beiddia'r oll, ac ysgrifenna! Dinistria dy hunan! Heria bopeth! Pa hawl sydd gennyt i wthio'n ol i anghofrwydd waith artistig sy'n estyn allan ei freichiau am dosturi a gweld goleu dydd?'
"Ah! ieuenctid, ieuenctid! ni ddioddefaist erioed fel y dioddefaf fi, onide buasit yn deall a bod yn ddistaw."