siomwyd y disgwyliadau a grewyd ganddynt ar y cychwyn. Daeth ein gwrthrych yn enwog ac adnabyddus fel pregethwr yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn y weinidogaeth. Y tro cyntaf i mi ei weled, a'i glywed yn pregethu, ydoedd ar nos Lun cyfarfod blynyddol y Pasg, yn nghapel Pendref, Llanfyllin. Y mae agos i haner cân mlynedd er hyny. Ac er mai pregethu a phregethwyr oedd yn dwyn fy mryd y pryd hwnw, eto, yr oeddwn yn rhy ieuanc i allu cofio ond ychydig, ond y mae yr adgof yn fyw am dano, yn eistedd yn y pwlpud wrth ochr Hen Olygydd y "Dysgedydd "—y patriarch anrhydeddus o Ddolgellau. Nid yn fynych y gwelwyd mwy eithafion mewn pwlpud. Am yr Hen Olygydd yr oedd ei arafwch ef yn hysbys i bob dyn." Ac fel y sylwodd rhywun am ei weinidogaeth, mai Dyfroedd Siloah yn cerdded yn araf" ydoedd. Bwyd cryf yr hwn a berthyn i'r rhai perffaith," ydoedd ei bregethau, a hwnw yn wastad yn fwyd iach, a'i draddodiad yn hollol dawel a digynhwrf, o'r gair cyntaf byd yr amen. Yr oedd hefyd wahaniaeth mawr rhwng y ddau bregethwr mewn oedran; a thybid fod cryn ymryson wedi bod rhyngddynt am gael pregethu yn gyntaf, yr oedd yr Hen Olygydd yn gall fel y Sarff," ond heb ddim o'i gwenwyn, ac felly ymddygodd yn gall y noson hono, barnodd os oedd efe i bregethu o gwbl fod yn rhaid iddo bregethu yn gyntaf, neu ei fod yn bur debyg o golli y cyfle y tro hwnw. Ac wedi pregeth fer a syml gan yr hynafgwr parchedig, ar "nodweddion y rhai sydd gyda'r Iesu," sylfaenedig ar Act iv. 13., cododd Hwfa Mon ar ei draed, "a llygaid pawb yn y Synagog yn craffu arno." Yr oedd ei ddyn oddi allan yn tynu sylw, ac yn peri i'r gynnulleidfa deimlo na welsent neb tebyg iddo yn y pwlpud hwnw o'r blaen. Nid oedd golwg lyfndew a chorphol arno y pryd hwnw, fel mewn blynyddoedd wedi hyny— teneu, esgyrnog, a'i wyneb yn bantiog, ac i raddau yn welw, ac heb flewyn yn tyfu arno, a'i wallt tywyll yn crogi i lawr hyd ei ysgwyddau, a'i lygaid megis wedi eu claddu, o dan dorlanau o aeliau cuchiog. Felly mae ein hadgof am dano yr adeg hono. Mawr oedd y clustfeinio i wrando y gair cyntaf a ddeuai allan o enau y
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/108
Gwirwyd y dudalen hon