Dyfnderaw chwyddog, yn foriog ferwant,
A'u glafoerion trochionnawg lifeiriant,
Hyd yr uchelion yn wyrddion hyrddiant,
Goruwch anwfn yn wyllt y gwreichionant;
A thwrw y bytheiriant, erch ryfel
A than yr awel bygythion ruant!
Wedi y darluniad mor rymus, yr adroddai eiriau yr ysgrythyr— "Pan osododd efe ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn," "Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr; pan gyfodo ei donau, ti a'u gostegi." Disgynai i gywair is a newidiodd ei dôn wedi hyny, a chafwyd ganddo ddarluniad swynol a thlws dros ben o'r gwlaw "Y cynar wlaw, a'r diweddar wlaw, a gwlaw mawr ei nerth," ac fel yr oedd pob dyferyn a ddisgynai o'r cwmwl yn cadw ei ddeddf. "Pan wnaeth efe ei ddeddf i'r gwlaw." Cyfeiriodd wedi hyny at yr anifeiliaid, y bwystfilod, y pysgod, a'r adar asgellog; a dangosai fel yr oedd y Creawdwr wedi gosod terfynau i'r naill a'r llall, a phob un yn cadw ei le.
Pregthodd gydag egni cawr, nes oedd ei chwys yn llifo, rhedai ar hyd ei fochgernau, a dihidlai oddiwrth ei wallt llaes. Pan yn nghymdogaeth y deg ar y gloch, terfynodd gyda haner dydd y cristion gan adael y gynulleidfa mewn synedigaeth ddieithriol. Mawr fu y siarad am ei bregeth ar ol hyny, a hwn a'r llall yn holi pa bryd yr oedd y dyn odd hwnw yn dyfod yno drachefn. Bu "Y Beirniaid" fel yr adnabyddid hwy, yn mesur ac yn pwyso y bregeth. Yr oedd yno ddau yn arbenig a gyfrifent eu hunain yn oraclau, a materion dyrys, rhyw ddirgeledigaethau fyddai ganddynt yn wastad dan sylw. Nid oedd y naill na'r llall yn aelodau eglwysig. Mynychai un ddwy eglwys, un AR y plwy a'r llall YN y plwy. Disgybl y dorth oedd efe yn y gyntaf, a disgybl "Y Pynciau" yn yr ail. Yr oedd y naill yn Armin rhonc a'r llall yn Galfin eithafol. Yr oedd pregeth Hwfa yn rhy Galfinaidd gan yr Armin. Nid oedd sicrwydd y cyrhaeddai yr haul i'w ganol dydd, gallai ddisgyn yn ol saith o raddau, o leiaf ar ddial y Cristíon,